Dewi Lake

Wales team for Scotland clash at Principality Stadium | Cyhoeddi tîm Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Principality

Head coach Steve Tandy has named the Wales team to play Scotland in the third round of the 2026 Guinness Six Nations at Principality Stadium on Saturday 21 February (kick-off 4.40pm, live on BBC1 and S4C).

There are four changes to the starting XV for our second home match of the 2026 Championship.

Gabriel Hamer-Webb starts on the wing and will become the 1,221st Wales men’s international on Saturday.

Ben Carter is named alongside Dafydd Jenkins in the second row for his first Six Nations start.

Sam Costelow is selected at fly-half to make his first appearance for Wales this Championship.

In the back row, Taine Plumtree is at blindside flanker for his first Six Nations start. Alex Mann continues at openside flanker and Aaron Wainwright moves to no. 8.

Among the replacements Freddie Thomas, James Botham and Blair Murray are all in line to make their first appearances for Wales this campaign.

Tandy said: “There are some changes to the team this week. We feel this is the best team to take on Scotland and with a six-day turnaround you want some freshness as well going into the game.

“It’s our third game of the championship. We want to build on our performance. We want to see more consistent moments and back-to-back moments, which we feel if we get we'll be closer to getting the outcome we want from games.”

On Gabriel Hamer-Webb making his debut Tandy added: “Gabe has really impressed me in the way he's attacked training, the way he's learnt, the way he's adapted and the way he's just settled into the squad. His training efforts have been outstanding.

“Then when you dig into his background at Leicester, even when he wasn't in the team, everyone said he was an amazing team player. He also kept pushing, he never gave up and then when he had his Leicester opportunity he took it with two hands and now this opportunity has come up and it’s thoroughly deserved.”

--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
 
Mae’r Prif Hyfforddwr Steve Tandy wedi enwi tîm Cymru i wynebu’r Alban yn nhrydedd rownd y gemau ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn 21 Chwefror (4.40pm, yn fyw ar S4C a BBC1).

Mae pedwar newid i’r pymtheg cychwynnol ar gyfer ail gêm gartref Cymru ym Mhencampwriaeth 2026.

Bydd Gabriel Hamer-Webb yn dechrau ar yr asgell ddydd Sadwrn, ac ef fydd y 1,221fed chwaraewr i gynrychioli tîm cenedlaethol dynion Cymru.

Mae Ben Carter wedi’i ddewis yn glo i bartneru Dafydd Jenkins yn yr ail reng. Dyma fydd y tro cyntaf i Carter ddechrau gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae Sam Costelow wedi’i ddewis yn faswr - a dyma fydd ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn y Bencampwriaeth eleni.

Yn y rheng ôl, mae Taine Plumtree wedi ei ddewis yn flaenasgellwr ochr dywyll – a dyma fydd y tro cyntaf iddo ef ddechrau gornest yn y Chwe Gwlad hefyd. Bydd Alex Mann yn parhau fel blaenasgellwr ochr agored ond bydd Aaron Wainwright yn symud yn ôl i safle’r wythwr yr wythnos hon.

Ymhlith yr eilyddion, mae Freddie Thomas, James Botham a Blair Murray i gyd yn barod i wneud eu hymddangosiadau cyntaf dros Gymru yn yr ymgyrch hon.

Dywedodd Steve Tandy: “Mae rhai newidiadau i’r tîm yr wythnos yma, gan ein bod ni’n teimlo mai hwn yw’r tîm gorau i wynebu’r Alban yn benodol. Mae’r ffaith mai dim ond chwe niwrnod sydd rhwng y gemau’r tro yma wedi golygu bod angen i ni ddod ag ychydig o waed newydd i mewn i’r tîm y tro hwn.

“Hon yw ein trydedd gêm yn y Bencampwriaeth eleni ac ry’n ni eisiau adeiladu ar agweddau cadarnhaol ein perfformiadau hyd yma. Ry’n ni eisiau gweld mwy o gysondeb a dilyniant yn ein chwarae, ac os y gallwn ni wneud hynny, fe fyddwn ni’n dod yn llawer nes at gael y canlyniad ry’n ni ei eisiau.”

Wrth gyfeirio at y ffaith y bydd Gabriel Hamer-Webb yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad, ychwanegodd Tandy: “Mae Gabe wedi creu argraff fawr arna’i trwy gydol yr amser mae wedi bod yn ymarfer gyda ni. Mae’n barod iawn i ddysgu ac i addasu ac mae wedi ymgartrefu’n rhwydd yn y garfan.

“Mae ei ymdrech wrth ymarfer wedi bod yn ardderchog. Yn ystod y cyfnod pan nad oedd yn dechrau dros Gaerlŷr, roedd pawb yno’n canmol ei agwedd. Roedd yn parhau i wneud ei orau dros y garfan a’r tîm tra’n dal ati’n ddi-flino i wneud popeth o fewn ei allu i ennill ei le’n y pymtheg cychwynnol.

“Pan gafodd ei gyfle – fe gymrodd hwnnw gyda dwy law – a gobeithio y gwnaiff yr un peth gyda ni. Mae’n llawn haeddu ei gyfle.”


Wales team v Scotland – Guinness Six Nations | Tîm Cymru v Yr Alban – Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness

15. Louis Rees-Zammit (Bristol Bears | Bryste – 37 caps)
14. Gabriel Hamer-Webb (Leicester Tigers | Caerlŷr – uncapped | heb gap)
13. Eddie James (Scarlets – 6 caps)
12. Joe Hawkins (Scarlets – 8 caps)
11. Josh Adams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 67 caps)
10. Sam Costelow (Scarlets – 19 caps)
9. Tomos Williams (Gloucester Rugby | Caerloyw – 69 caps)
1. Rhys Carre (Saracens | Saraseniaid – 25 caps)
2. Dewi Lake (Ospreys | Gweilch – 28 caps) captain | capten
3. Tomas Francis (Provence Rugby – 79 caps)
4. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs | Caerwysg – 28 caps)
5. Ben Carter (Dragons | Dreigiau – 16 caps)
6. Taine Plumtree (Scarlets – 13 caps)
7. Alex Mann (Cardiff Rugby | Caerdydd – 13 caps)
8. Aaron Wainwright (Dragons | Dreigiau – 64 caps)

Replacements | Eilyddion

16. Ryan Elias (Scarlets – 45 caps)
17. Nicky Smith (Leicester Tigers | Caerlŷr – 60 caps)
18. Archie Griffin (Bath Rugby | Caerfaddon – 13 caps)
19. Freddie Thomas (Gloucester Rugby | Caerloyw – 7 caps)
20. James Botham (Cardiff Rugby | Caerdydd – 18 caps)
21. Kieran Hardy (Ospreys | Gweilch – 30 caps)
22. Jarrod Evans (Harlequins – 15 caps)
23. Blair Murray (Scarlets – 14 caps)