Head coach Steve Tandy has today announced the Wales team to play Argentina at the Estadio San Juan del Bicentenario in round two of the Nations Championship on Saturday 11 July, KO 20.10h BST (16.10h local).
Ospreys Kieran Hardy and Ben Warren are both named in the squad.
There are three changes to the starting XV from round one.
James Botham is named at blindside flanker with Jac Morgan at openside flanker. Aaron Wainwright, who made his debut for Wales eight years ago in San Juan, completes the back row at No. 8.
Sam Costelow is selected at fly half with Tomos Williams at scrum half.
Ellis Mee starts on the wing alongside Josh Adams, with Blair Murray again at fullback.
Among the replacements there are two milestones for Wales on Saturday: Ryan Elias is due to win his 50th cap for Wales, while Kane James would make his senior international debut.
Teddy Williams and Max Llewellyn are also selected in the match day 23 and in line to make their first appearance this Nations Championship.
Tandy said: “There are three changes this week. I think it's a great opportunity for those boys coming in. An exciting challenge. This weekend we're just looking forward to building on last week's performance.
“It's going to be an amazing opportunity for us playing away from home, which is always exciting. I think it's a really good test for us to see where we're at. We know that Argentina are a really passionate and skilful team.”
On Ryan Elias’ milestone for Wales, Tandy said: “Ryan’s story is an incredible one. He’s an outstanding leader, an outstanding person more importantly but then I think he’s really added value to our group. It’s an unbelievable achievement to get 50 caps. It’s an honour that’s really deserved.”
On the uncapped Kane James, Tandy added: “Kane is an exciting player. He’s so powerful and quick. The way he’s come into the environment and just jumped straight in: he hasn’t been tentative in anything he does. He creates a big energy in how he goes about his work; he’s super diligent around everything, taking on the detail. I’m really excited to see Kane get his first cap on the weekend.”
----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Mae’r Prif Hyfforddwr Steve Tandy wedi enwi tîm Cymru i wynebu Ariannin yn Estadio San Juan del Bicentenario, yn ail rownd y gemau ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf, am 20.10 amser Cymru (16.10 amser lleol).
Mae tri newid i’r pymtheg cychwynnol ers y gêm gyntaf yn erbyn Fiji’r penwythnos diwethaf.
Mae James Botham yn cael ei gyfle i ddechrau yn safle’r blaen-asgellwr ochr dywyll, gyda Jac Morgan wedi’i ddewis ar yr ochr agored unwaith yn rhagor.
Yr wythwr Aaron Wainwright, wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn San Juan wyth mlynedd yn ôl, sy’n cwblhau’r rheng ôl.
Mae Sam Costelow wedi ei ddewis i ddechrau yn safle’r maswr y Sadwrn yma, a bydd yn partneru Tomos Williams sy’n parhau’n fewnwr.
Caiff Ellis Mee ei gyfle ar yr asgell dde y penwythnos hwn. Josh Adams fydd yr asgellwr arall, tra bydd Blair Murray yn dechrau’n safle’r cefnwr unwaith eto’r wythnos hon.
Ymhlith yr eilyddion mae dwy garreg filltir nodedig ar fin cael eu cyrraedd. Mae disgwyl i Ryan Elias ennill ei 50fed cap dros Gymru, tra gallai Kane James wneud ei ymddangosiad cyntaf ar y llwyfan rhyngwladol llawn.
Mae Teddy Williams a Max Llewellyn wedi’u cynnwys yn y garfan ar gyfer yr ornest hon ac mae’r ddau ohonyn nhw’n debygol o wneud eu hymddangosiadau cyntaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.
Dywedodd Steve Tandy: “Mae tri newid yr wythnos yma ac mae’r gêm hon yn cynnig cyfle gwych i’r bechgyn sy’n dod i mewn i’r tîm. Yn naturiol, ry’n ni’n gobeithio adeiladu ar ein perfformiad diwethaf ac mae’r her sydd o’n blaenau’n tynnu dŵr i’r dannedd.
“Mae chwarae oddi cartref wastad yn brofiad gwahanol a chyffrous a bydd y gêm hon yn rhoi syniad da i ni o ble ry’n ni arni o safbwynt ein datblygiad diweddar. Ry’n ni’n gwybod bod Ariannin yn dîm angerddol a dawnus iawn.”
Wrth gyfeirio at Ryan Elias, ychwanegodd Tandy: “Mae stori Ryan yn anhygoel. Mae’n arweinydd campus, ac yn bwysicach fyth, mae’n berson arbennig. Mae wedi cyfrannu’n wych at y garfan. Mae ennill hanner cant o gapiau’n gamp arbennig ac yn anrhydedd y mae’n ei haeddu’n llwyr.”
Nid yw Kane James ar y llaw arall wedi ennill cap dros ei wlad hyd yn hyn ac ychwanegodd Steve Tandy: “Mae Kane yn chwaraewr cyffrous, pwerus ac arbennig o gyflym hefyd. Mae wedi ymgartrefu’n llwyr yn y garfan ers yr eiliad gyntaf iddo ymuno gyda ni. Mae ganddo rhyw egni arbennig ym mhopeth y mae’n ei wneud ac mae’n drylwyr iawn yn ei holl baratoadau. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn ennill ei gap cyntaf y penwythnos yma.”
Wales team to face Argeninta in San Juan, Saturday 11 July, KO 20.10h BST (16.10h local) | Tîm Cymru i wynebu Ariannin yn San Juan, ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf, am 20.10 amser Cymru (16.10 amser lleol).
Live on ITV and S4C | Yn fyw ar S4C ac ITV
15 Blair Murray (Scarlets – 17 caps)
14 Ellis Mee (Scarlets – 9 caps)
13 Eddie James (Scarlets – 10 caps)
12 Joe Hawkins (Scarlets – 12 caps)
11 Josh Adams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 71 caps)
10 Sam Costelow (Scarlets – 21 caps)
9 Tomos Williams (Saracens | Saraseniaid – 73 caps)
1 Rhys Carre (Saracens | Saraseniaid – 29 caps)
2 Dewi Lake (Captain, Gloucester Rugby | Caerloyw – 32 caps)
3 Dillon Lewis (Dragons | Dreigiau – 58 caps)
4 Ben Carter (Dragons | Dreigiau – 20 caps)
5 Adam Beard (Montpellier – 66 caps)
6 James Botham (Cardiff Rugby | Caerdydd – 22 caps)
7 Jac Morgan (Gloucester Rugby | Caerloyw – 25 caps)
8 Aaron Wainwright (Leicester Tigers | Caerlŷr – 68 caps)
Replacements
16. Ryan Elias (Scarlets – 49 caps)
17. Nicky Smith (Sale Sharks – 64 caps)
18. Ben Warren (Ospreys | Gweilch – 1 cap)
19. Teddy Williams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 8 caps)
20. Kane James (Exeter Chiefs | Caerwysg – uncapped | heb gap)
21. Kieran Hardy (Ospreys | Gweilch – 31 caps)
22. Max Llewellyn (Gloucester Rugby | Caerloyw – 11 caps)
23. Louis Rees-Zammit (Bristol Bears | Bryste – 41 caps)