Head coach Steve Tandy has today announced the Wales team to play South Africa at Hollywoodbets Kings Park, Durban in round three of the Nations Championship on Saturday 18 July, KO 16.40h BST (17.40h local).
Three Ospreys have been named in the team. Ben Warren, Reuben Morgan-Williams take places on the bench while Dan Edwards lines up in the 10 jersey.
There are six changes to the starting XV from round two.
Teddy Williams makes his first start of the Nations Championship alongside Adam Beard in the second row.
In the back row Alex Mann is named at blindside flanker, with Jac Morgan at openside flanker and Aaron Wainwright at No. 8.
Dan Edwards is selected at fly half with Tomos Williams at scrum half.
Ben Thomas, named at inside centre, makes his first appearance in the Nations Championship. Max Llewellyn partners Thomas in the midfield.
Louis Rees-Zammit and Josh Adams start on the wings and Blair Murray continues at fullback.
There is a six two split on the Wales bench. Ryan Elias, Nicky Smith and Ben Warren are the front row replacements. Teddy Williams is covering the second row, with Tommy Reffell and James Botham the back row cover. Reuben Morgan-Williams and Joe Hawkins are the replacement backs.
Tandy said: “We’ve made some changes to the starting XV. It’s coming to the end of the season; we’ve had a big bit of travel. Some boys deserve an opportunity and it’s a chance to freshen up the team.
“South Africa are world champions. They have loads of depth. For us, it's about putting our game out there. We want to see a real physical edge. We're going up against probably the most physical team in the world. So we know we're going to have to really step up the physicality. It's a great opportunity to test ourselves against the best team in the world.”
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, wedi enwi’r tîm i wynebu De Affrica yn Stadiwm Hollywoodbets Kings Park, Durban, yn nhrydedd rownd y gemau ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf (16.40 Amser Cymru; 17.40 amser lleol).
Mae Steve Tandy wedi gwneud chwe newid i’r pymtheg cychwynnol ddechreuodd y gêm yn Ariannin y penwythnos diwethaf.
Bydd Teddy Williams yn dechrau am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd wrth iddo ymuno gydag Adam Beard yn yr ail reng.
Yn y rheng ôl, mae Alex Mann yn dechrau ar yr ochr dywyll. Jac Morgan fydd yn flaen- asgellwr agored unwaith eto tra bydd Aaron Wainwright yn parhau’n safle’r wythwr.
Bydd Dan Edwards yn dychwelyd i safle’r maswr, tra bydd Tomos Williams yn fewnwr unwaith yn rhagor.
Mae Ben Thomas, sy’n dechrau fel canolwr cyntaf, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, gyda Max Llewellyn yn bartner iddo yng nghanol y cae.
Louis Rees-Zammit a Josh Adams fydd yn dechrau ar y ddwy asgell, tra bo Blair Murray yn cadw ei le’n gefnwr.
Mae Cymru wedi dewis 6 o flaenwyr a 2 olwr ar y fainc. Ryan Elias, Nicky Smith a Ben Warren yw’r eilyddion o safbwynt y rheng flaen. Mae Freddie Thomas, ymunodd â’r garfan yn Durban ddydd Mawrth, yn cynnig opsiwn arall o safbwynt yr ail reng. Tommy Reffell a James Botham yw’r eilyddion rheng ôl, tra mai Reuben Morgan-Williams a Joe Hawkins yw’r ddau olwr sy’n dechrau ar y fainc.
Dywedodd Steve Tandy: “Ry’n ni wedi penderfynu gwneud rhai newidiadau i’r pymtheg cychwynnol. Mae’r tymor yn dod i ben, ry’n ni wedi teithio llawer iawn yn ddiweddar, ac mae rhai o’r bechgyn yn haeddu eu cyfle. Mae hyn hefyd yn gyfle i ni ddod ag ychydig o egni ffres i’r tîm.
“De Affrica yw Pencampwyr y Byd wrth gwrs ac mae ganddyn nhw ddyfnder anhygoel ar gael iddyn nhw. Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein gêm ni a cheisio gosod ein hawdurdod a’n patrwm ein hunain ar y chwarae. Ry’n ni eisiau dangos bod ochr gorfforol i’n gêm ni hefyd a hynny’n erbyn tîm mwyaf corfforol yn y byd siwr o fod. Ry’n ni’n gwybod y bydd yn rhaid i ni fod yn fwy corfforol yn yr ornest yma na’n gemau diwethaf – ond mae hwn yn gyfle gwych i ni brofi ein hunain yn erbyn y tîm gorau yn y byd.”
Wales team to face South Africa in Durban | Tîm Cymru i wynebu De Affrica yn Durban
Saturday 18 July, KO 16.40h BST (17.40h local) | Ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf, 16.40 Amser Cymru (17.40 amser lleol)
Live on ITV and S4C | Yn fyw ar S4C ac ITV
15. Blair Murray (Scarlets – 18 caps)
14. Louis Rees-Zammit (Bristol Bears | Bryste – 42 caps)
13. Max Llewellyn (Gloucester Rugby | Caerloyw – 12 caps)
12. Ben Thomas (Cardiff Rugby | Caerdydd – 18 caps)
11. Josh Adams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 72 caps)
10. Dan Edwards (Ospreys | Gweilch – 12 caps)
9. Tomos Williams (Saracens | Saraseniaid – 74 caps)
1. Rhys Carre (Saracens | Saraseniaid – 30 caps)
2. Dewi Lake (Captain, Gloucester Rugby | Caerloyw – 33 caps)
3. Dillon Lewis (Dragons | Dreigiau – 59 caps)
4. Teddy Williams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 9 caps)
5. Adam Beard (Montpellier – 67 caps)
6. Alex Mann (Cardiff Rugby | Caerdydd – 17 caps)
7. Jac Morgan (Gloucester Rugby | Caerloyw – 26 caps)
8. Aaron Wainwright (Leicester Tigers | Caerlŷr – 69 caps)
Replacements
16. Ryan Elias (Scarlets – 50 caps)
17. Nicky Smith (Sale Sharks – 65 caps)
18. Ben Warren (Ospreys | Gweilch – 2 caps)
19. Freddie Thomas (Gloucester Rugby | Caerloyw – 8 caps)
20. Tommy Reffell (Leicester Tigers | Caerlŷr – 29 caps)
21. James Botham (Cardiff Rugby | Caerdydd – 23 caps)
22. Reuben Morgan-Williams (Ospreys | Gweilch – 2 caps)
23. Joe Hawkins (Scarlets – 12 caps)