| Head coach Steve Tandy has named four Ospreys in his Wales team to play Argentina on Sunday 9 November in their first Quilter Nations Series match this November at Principality Stadium (KO 3.10pm GMT. Live on TNT Sports, discovery+ and S4C). Captain Jac Morgan starts at openside flanker and Tomos Williams starts at scrum-half to make their first appearances for Wales since the Guinness Six Nations, having been selected for The British & Irish Lions this summer. Dafydd Jenkins and Adam Beard return for Wales in the second row. Jenkins makes his first appearance since the Guinness Six Nations, while Beard features for Wales for the first time in 2025. Alex Mann is selected at blind-side flanker and Aaron Wainwright completes the back row at No. 8. Rhys Carré is named at loosehead prop to make his first appearance for Wales since 2023. Hooker Dewi Lake and tighthead prop Keiron Assiratti join Carré in the front row. Dan Edwards is named at fly-half, his second start for Wales. Ben Thomas and Max Llewellyn pair up in the Wales midfield. Josh Adams and Tom Rogers are selected on the wings, with full-back Blair Murray rounding out the starting XV. Among the Wales replacements, back row Olly Cracknell is in line to make his Wales debut off the bench and Louis Rees-Zammit is in line to make his first outing in a Wales jersey since the Rugby World Cup 2023 quarter-final against Argentina. Liam Belcher, who won his first two caps for Wales this summer in Japan, provides cover at hooker. Nicky Smith and Archie Griffin are the covering props. Freddie Thomas is the remaining forward replacement. Kieran Hardy is the scrum-half cover and Jarrod Evans is the fly-half cover. Tandy said: “It’s a real privilege to announce my first match day 23 for Wales. I just want to see that 23 really go out there and express themselves on Sunday and enjoy every moment of representing the country in such a unique and special jersey.” On Olly Cracknell Tandy added: “Olly's impressed us since he came into camp, but I've known Olly a long time. I was lucky enough to coach him at the Ospreys. He's an unbelievable professional and you see Olly’s had to have resilience throughout his career. He's shown that, whether it be London Irish, then he goes to Leicester, plays minutes every week and he's battle-hardened and he's performing at a big club. So I'm just excited to see that transfer to the international arena.” ----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------- Mae’r prif hyfforddwr Steve Tandy wedi enwi tîm Cymru i chwarae yn erbyn Ariannin ddydd Sul, 9 Tachwedd, yn eu gêm gyntaf yng Nghyfres Hydref Quilter eleni, yn Stadiwm Principality (cic gyntaf 3.10pm. yn fyw ar S4C, TNT Sports a discovery+). Bydd Jac Morgan, capten Cymru, yn dechrau fel blaenasgellwr ochr agored, a Tomos Williams yn dechrau’n safle’r mewnwr – eu gemau cyntaf i Gymru ers Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025, wedi iddyn nhw gael eu dewis ar gyfer y Llewod dros yr haf. Mae Dafydd Jenkins ac Adam Beard yn dychwelyd i dîm Cymru yn yr ail reng. Dyma ymddangosiad cyntaf Jenkins ers y Chwe Gwlad hefyd, tra bydd Beard yn chwarae i Gymru am y tro cyntaf eleni. Mae Alex Mann wedi’i ddewis yn safle’r blaenasgellwr ochr dywyll, ac Aaron Wainwright fydd yn cwblhau’r drindod yn y rheng ôl fel wythwr. Mae Rhys Carré wedi’i enwi’n brop pen rhydd, a dyma fydd ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ers 2023. Bydd y bachwr Dewi Lake a’r prop pen tynn Keiron Assiratti yn cadw cwmni iddo’n y rheng flaen. Bydd Dan Edwards yn safle’r maswr – yr eildro iddo ddechrau gêm dros Gymru. Ben Thomas a Max Llewellyn fydd yn ffurfio’r bartneriaeth yng nghanol cae i Gymru. Josh Adams a Tom Rogers sydd wedi eu dewis ar yr esgyll, gyda’r cefnwr Blair Murray yn cwblhau’r pymtheg cychwynnol. Ymhlith yr eilyddion i Gymru, bydd y blaenasgellwr Olly Cracknell yn gobeithio camu o’r fainc i ennill ei gap cyntaf, tra bydd Louis Rees-Zammit yn gwisgo crys Cymru am y tro cyntaf ers Rownd Wyth Olaf Cwpan y Byd yn 2023 yn erbyn yr Ariannin, os y caiff ei alw i’r maes gan Steve Tandy. Bydd Liam Belcher, enillodd ei ddau gap dros Gymru hyd yn hyn yn Japan dros yr haf, yn eilydd o fachwr tra mai Nicky Smith ac Archie Griffin fydd yr opsiynau wrth gefn fel propiau. Freddie Thomas yw’r unig flaenwr arall ar y fainc. Bydd Kieran Hardy ar gael i’w alw i’r maes fel mewnwr, a Jarrod Evans yw’r opsiwn arall ar gael i Steve Tandy fel maswr. Dywedodd Steve Tandy: “Mae’n fraint enfawr cyhoeddi fy nhîm cyntaf o 23 o chwaraewyr i gynrychioli Gymru. Dwi eisiau gweld pob aelod o’r garfan yn camu i’r maes ddydd Sul, mynegi eu hunain ar y cae gan fwynhau pob eiliad o gynrychioli eu gwlad gyda chrys mor arbennig ac unigryw ar eu cefnau.” Ychwanegodd Tandy wrth gyfeirio at Olly Cracknell: “Mae Olly wedi gwneud argraff sylweddol arnaf ers iddo ymuno â’r garfan, a dwi’n ei adnabod ers blynyddoedd. Cefais y fraint o’i hyfforddi yn ystod fy amser gyda’r Gweilch. Mae’n broffesiynol iawn o safbwynt ei agwedd. Mae’n unigolyn penderfynol iawn ac mae wedi profi hynny dros y blynyddoedd gyda’r Gwyddelod yn Llundain ac mae’n arddangos yr un rhinweddau gyda Chaerlŷr erbyn hyn. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ei weld yn trosglwyddo ei ddoniau amlwg i’r llwyfan rhyngwladol.” |
Wales team v Argentina – Quilter Nations Series | Tîm Cymru v Ariannin – Cyfres Hydref Quilter
15. Blair Murray (Scarlets – 10 caps)
14. Tom Rogers (Scarlets – 11 caps)
13. Max Llewellyn (Gloucester Rugby / Caerloyw – 8 caps)
12. Ben Thomas (Cardiff Rugby | Caerdydd – 14 caps)
11. Josh Adams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 63 caps)
10. Dan Edwards (Ospreys / Gweilch – 3 caps)
9. Tomos Williams (Gloucester Rugby / Caerloyw – 64 caps)
1. Rhys Carré (Saracens / Saraseniaid – 20 caps)
2. Dewi Lake (Ospreys | Gweilch – 22 caps)
3. Keiron Assiratti (Cardiff Rugby | Caerdydd – 15 caps)
4. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 23 caps)
5. Adam Beard (Montpellier – 58 caps)
6. Alex Mann (Cardiff Rugby | Caerdydd – 7 caps)
7. Jac Morgan (Ospreys / Gweilch – 23 caps) – captain | capten
8. Aaron Wainwright (Dragons | Dreigiau – 59 caps)
Replacements | Eilyddion
16. Liam Belcher (Cardiff Rugby | Caerdydd – 2 caps)
17. Nicky Smith (Leicester Tigers | Caerlŷr – 56 caps)
18. Archie Griffin (Bath Rugby| Caerfaddon – 8 caps)
19. Freddie Thomas (Gloucester Rugby / Caerloyw – 4 caps)
20. Olly Cracknell (Leicester Tigers / Caerlŷr – uncapped / heb gap)
21. Kieran Hardy (Ospreys | Gweilch – 25 caps)
22. Jarrod Evans (Harlequins – 11 caps)
23. Louis Rees-Zammit (Bristol Bears / Bryste – 32 caps