Dewi Lake will captain Wales for the 2026 Six Nations

Dewi Lake to captain Wales as seven Ospreys are named in Steve Tandy's Squad

Wales senior men’s head coach Steve Tandy has named a 38-player Wales squad for the 2026 Guinness Six Nations.

Dewi Lake will captain the 877-cap squad for the campaign.

Two uncapped players are selected among the 20 forwards and 18 backs named today: Leicester Tigers wing Gabriel Hamer-Webb and Bath Rugby centre Louie Hennessey.

Tomas Francis is selected for Wales for the first time since Rugby World Cup 2023.

There are also call ups for James Botham, Sam Costelow, Ryan Elias, Josh Macleod, Mason Grady, Eddie James and Owen Watkin in a Wales squad that has an average age of 26 and a half.

Tandy said: "There are a few changes to the squad from the autumn, some due to injury but others are a sign of the competition there is and how many players we have in the mix which is a real positive. I think we have a good blend again within the squad moving into this campaign and can’t wait for us to assemble next week.

“I’m excited to get back into camp and look at how we build on the foundations established in the autumn and make sure we are continually growing and developing as a group.”

On the captaincy Tandy added: "Dewi is great man and so passionate about Wales which I think everyone can see. I thought he was outstanding in the way he led during the autumn, not only in the three games he was captain but also how he supported Jac prior to that. I know he will continue to do an amazing job in the role this Guinness Six Nations.”

Players will assemble in camp on Monday 26 January to begin preparations for the Championship.

Wales kicks off its Guinness Six Nations campaign at 4.40pm on Saturday 7 February away to England at Allianz Stadium, Twickenham.

The following weekend Wales returns to Cardiff to host France at Principality Stadium on Sunday 15 February, kick off 3.10pm.

In a new format to the Championship, Wales then face Scotland at home on Saturday 21 February, kick of 4.40pm, before a fallow week.

Wales then travel to Dublin to face Ireland at 8.10pm on Friday 6 March, before a week later returning back home to host Italy at 4.40pm in the middle fixture on ‘Super Saturday’ 14 March in the final round of the campaign.

As agreed with Six Nations and announced ahead of last year’s competition, Principality Stadium’s roof will close for all three of Wales’ home Guinness Six Nations fixtures in 2026.

Fans will be able to follow the 2026 Championship on BBC and ITV, who continue to share coverage in the UK, with Welsh-language coverage on S4C.

With tickets selling fast, secure your seat for Wales home matches now via www.wru.wales/tickets U18 and student tickets available from £23.

The Welsh Rugby Calendar is available here – fans can sync fixtures to their personal calendar and never miss a match.

For the full list of 2026 Guinness Six Nations fixtures visit the official Championship website


--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Mae Prif Hyfforddwr tîm cenedlaethol dynion Cymru, Steve Tandy, wedi enwi carfan o 38 o chwaraewyr ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026.

Bydd Dewi Lake yn gapten ar y garfan, sydd â chyfanswm o 877 o gapiau rhyngddyn nhw. Oedran cyfartalog yr holl chwaraewyr yw 26½.

Mae dau chwaraewr sydd eto i ennill cap ymhlith yr 20 o flaenwr a’r 18 olwr sydd wedi eu dewis yn y garfan. Asgellwr Caerlŷr Gabriel Hamer-Webb, a chanolwr Caerfaddon, Louie Hennessey yw’r ddau unigolyn hwnnw fydd yn gobeithio cynrychioli eu gwlad am y tro cyntaf.

Mae Tomas Francis wedi’i alw yn ôl i garfan Cymru am y tro cyntaf ers Cwpan Rygbi’r Byd yn 2023.
Mae James Botham, Sam Costelow, Ryan Elias, Josh Macleod, Mason Grady, Eddie James ac Owen Watkin hefyd yn dychwelyd i’r garfan ryngwladol.

Dywedodd Steve Tandy: “Ry’n ni wedi gwneud ychydig o newidiadau i’r garfan ers Cyfres yr Hydref. Mae rhai o’r rheiny o ganlyniad i anafiadau ond mae’r newidiadau eraill yn adlewyrchu gymaint o gystadleuaeth sydd gennym mewn gwahanol safleoedd ar hyn o bryd – ac mae hynny’n beth cadarnhaol iawn wrth gwrs.

“Dwi’n credu bod gennym garfan gytbwys wrth i ni baratoi ar gyfer yr ymgyrch hon a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at yr wythnos nesaf pan fyddwn ni gyd yn dod at ein gilydd i ymarfer.

“Dwi’n gyffrous i gael gweld sut ry’n ni’n mynd i adeiladu ar y sylfeini wnaethon ni eu gosod  yn yr Hydref a sicrhau hefyd ein bod yn parhau i dyfu a datblygu fel grŵp.”

Ychwanegodd Tandy ar y gapteiniaeth: “Mae Dewi yn ddyn arbennig sydd mor angerddol dros Gymru, ac mae hynny’n amlwg i bawb.

“Roedd ei arweinyddiaeth yn rhagorol yn ystod y gemau diwethaf - nid yn unig yn ystod y tair gêm y bu’n gapten ei hun ond hefyd yn y modd y gwnaeth gefnogi Jac cyn hynny. Dwi’n hollol hyderus y bydd yn parhau i wneud gwaith anhygoel fel capten yn ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness.”

Bydd y garfan gyfan yn dod at ei gilydd i ddechrau ar eu paratoadau ar gyfer y Bencampwriaeth ddydd Llun 26 Ionawr.

Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad am 4.40pm ddydd Sadwrn 7 Chwefror oddi cartref yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Allianz, Twickenham.

Yr wythnos ganlynol bydd y Crysau Cochion yn dychwelyd i Gaerdydd i groesawu Ffrainc i Stadiwm Principality ddydd Sul 14 Chwefror, 3.10pm.

Bydd Cymru wedyn yn wynebu’r Alban yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 21 Chwefror, 4.40pm, cyn cael eu hunig wythos rydd, sydd yn golygu y bydd yr holl gystadleuaeth wythnos yn llai eleni.

Taith i Ddulyn i wynebu Iwerddon am 8.10pm ddydd Gwener 6 Mawrth, fydd her nesaf carfan newydd Steve Tandy wedi hynny, cyn dychwelyd adref wythnos yn ddiweddarach i groesawu’r Eidal am 4.40pm ar gyfer eu gêm olaf o’r gystadleuaeth.

Gornest Cymru’n erbyn Yr Eidal fydd yr ail o dair y diwrnod hwnnw (14 Mawrth) wrth i’r Bencampwriaeth gyrraedd ei huchafbwynt.

Yn dilyn trafodaethau gyda threfnwyr y Chwe Gwlad y llynedd, cyhoeddwyd y bydd to Stadiwm Principality ar gau ar gyfer pob un o dair gêm gartref Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026.

Bydd cefnogwyr yn gallu dilyn Pencampwriaeth 2026 ar y BBC ac ITV, sy’n parhau i rannu’r hawliau darlledu yn y Deyrnas Unedig, tra bydd sylwebaeth Gymraeg yn dal ar gael ar S4C.

Gyda thocynnau’n gwerthu’n gyflym, sicrhewch eich sedd ar gyfer gemau cartref Cymru nawr: www.wru.wales/tickets. Mae tocynnau dan 18 oed a myfyrwyr ar gael o £23 yn unig.

Mae Calendr Rygbi Cymru ar gael yma – fel y gall cefnogwyr wneud yn siwr nad ydynt yn colli unrhyw gêm.

I weld rhestr lawn o gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026, ewch i wefan swyddogol y Bencampwriaeth.



WALES SQUAD FOR 2026 GUINNESS SIX NATIONS | CARFAN CYMRU AR GYFER CHWE GWLAD GUINNESS 2026

Forwards (20)

Keiron Assiratti (Cardiff Rugby / Caerdydd – 19 caps)
Adam Beard (Montpellier – 61 caps)
Liam Belcher (Cardiff Rugby / Caerdydd – 4 caps)
James Botham (Cardiff Rugby / Caerdydd – 18 caps)
Rhys Carre (Saracens / Saraseniaid – 23 caps)
Ben Carter (Dragons / Dreigiau – 14 caps)
Olly Cracknell (Leicester Tigers / Caerlŷr – 2 caps)
Harri Deaves (Ospreys / Gweilch – 1 cap)
Ryan Elias (Scarlets – 44 caps)
Tomas Francis (Provence Rugby – 77 caps)
Archie Griffin (Bath Rugby / Caerfaddon – 11 caps)
Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 26 caps)
Dewi Lake (Ospreys / Gweilch – 26 caps) captain / capten
Alex Mann (Cardiff Rugby / Caerdydd – 11 caps)
Josh Macleod (Scarlets – 4 caps)
Taine Plumtree (Scarlets – 11 caps)
Nicky Smith (Leicester Tigers / Caerlŷr – 58 caps)
Gareth Thomas (Ospreys / Gweilch – 44 caps)
Freddie Thomas (Gloucester Rugby / Caerloyw – 7 caps)
Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 62 caps)


Backs (18)

Josh Adams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 65 caps)
Sam Costelow (Scarlets – 19 caps)
Dan Edwards (Ospreys / Gweilch – 7 caps)
Jarrod Evans (Harlequins – 14 caps)
Mason Grady (Cardiff Rugby / Caerdydd – 15 caps)
Kieran Hardy (Ospreys / Gweilch – 28 caps)
Gabriel Hamer-Webb (Leicester Tigers / Caerlŷr – uncapped / heb gap)
Joe Hawkins (Scarlets – 7 caps)
Louie Hennessey (Bath Rugby / Caerfaddon – uncapped / heb gap)
Eddie James (Scarlets – 4 caps)
Ellis Mee (Scarlets – 4 caps)
Reuben Morgan-Williams (Ospreys / Gweilch – 2 caps)
Blair Murray (Scarlets – 14 caps)
Louis Rees-Zammit (Bristol Bears / Bryste – 35 caps)
Tom Rogers (Scarlets – 13 caps)
Ben Thomas (Cardiff Rugby / Caerdydd – 17 caps)
Owen Watkin (Ospreys / Gweilch – 43 caps)
Tomos Williams (Gloucester Rugby / Caerloyw – 67 caps)


WALES 2026 GUINNESS SIX NATIONS FIXTURES

Saturday 7 February: England v Wales, Allianz Stadium Twickenham – KO 16:40. Live on ITV and S4C.

Sunday 15 February: Wales v France, Principality Stadium Cardiff – KO 15:10. Live on BBC and S4C.

Saturday 21 February: Wales v Scotland, Principality Stadium Cardiff – KO 16:40. Live on BBC and S4C.

Friday 6 March: Ireland v Wales, Aviva Stadium Dublin – KO 20:10. Live on ITV and S4C.

Saturday 14 March: Wales v Italy, Principality Stadium Cardiff – KO 16:40. Live on BBC and S4C.