Head coach Steve Tandy has named the Wales team to play England in the first round of the 2026 Guinness Six Nations at Allianz Stadium, Twickenham on Saturday 7 February (kick-off 4.40pm, live on ITV1 and S4C). 4 Ospreys have been named in the squad, with Dewi Lake named Captain, Dan Edwards starting at 10 and Kieran Hardy and Harri Deaves named on the bench.
Captain Dewi Lake starts at hooker. Joining him in the front row are Nicky Smith at loosehead prop and Archie Griffin, who made his Wales debut against the same opposition in the 2024 Championship, at tighthead prop.
Dafydd Jenkins and Adam Beard pair up in the second row.
Josh Macleod, selected at openside flanker, will make his Six Nations debut this weekend. Alex Mann is at blindside flanker with Aaron Wainwright at No. 8.
Tomos Wiliams is named scrum-half and Dan Edwards is at fly-half.
Eddie James, selected at outside centre, makes his second start for Wales on Saturday. Ben Thomas partners James in the midfield.
Louis Rees-Zammit makes his fourth start at fullback for Wales in what will be his first Six Nations appearance since 2023. Josh Adams and Ellis Mee are selected on the wings.
There are six forwards and two backs among the replacements. Tomas Francis is set to make his first appearance for Wales since Rugby World Cup 2023. Hooker Liam Belcher and loosehead prop Rhys Carre join Francis as front row cover for Wales.
Harri Deaves, who won his first cap against New Zealand last November, Ben Carter and Taine Plumtree are the other forward replacements.
Mason Grady is in line to make his first outing for Wales since the 2024 Autumn Nations Series. Kieran Hardy provides cover at scrum half.
Tandy said: ““Wales v England is always a special game with all the history behind the fixture. We know they're playing some outstanding rugby and they're in great form. But I know how much it means to our players playing for the nation and representing Wales.
“The way the squad trained this week has been great. I want to see us get out and really attack the game on Saturday and give the best account of ourselves. Opening the Six Nations at Twickenham is historic and it's something we can't wait to do.”
On Josh Macleod being named at openside flanker Tandy added: “Josh has had some rough luck with injuries, but the way he's come back, the way he leads, his attention to detail around his week plan, the way he trains, the intensity he brings to everything he does is excellent. It’s going to be awesome to see him on the weekend.”
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Mae’r Prif Hyfforddwr Steve Tandy wedi enwi tîm Cymru i chwarae yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn 7 Chwefror, yn ei gêm gyntaf wrth y llyw yng nghystadleuaeth Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026.
Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Allianz am 16.40pm a bydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw ar S4C ac ITV1.
Dewi Lake fydd yn arwain Cymru ddydd Sadwrn o safle’r bachwr a bydd y propiau Nicky Smith ac Archie Griffin yn ymuno gydag ef yn y rheng flaen.
Fe enillodd Griffin ei gap cyntaf yn erbyn Lloegr yn ystod Pencampwriaeth 2024.
Bydd Dafydd Jenkins ac Adam Beard yn bartneriaid i’w gilydd yn yr ail reng.
Bydd y blaen-asgellwr ochr agored Josh Macleod, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y penwythnos hwn. Alex Mann fydd y blaen-asgellwr arall ac Aaron Wainwright fydd yn dechrau’n wythwr.
Tomos Williams a Dan Edwards sydd wedi eu dewis yn haneri.
Mae’r canolwr Eddie James, wedi ei ddewis i ddechrau ei ail gêm dros ei wlad a Ben Thomas fydd yn chwarae gyda’r crys rhif 12 ar ei gefn.
Yn safle’r cefnwr y mae Louis Rees-Zammit wedi ei ddewis – a hynny am y pedwerydd tro dros ei wlad. Dyma fydd y tro cyntaf i Rees-Zammit chwarae’n y Chwe Gwlad ers 2023. Josh Adams ac Ellis Mee sydd wedi’u dewis fel asgellwyr.
Mae Steve Tandy wedi dewis chwe blaenwr a dau o olwyr ar y fainc. Mae Tomas Francis ar fin gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ers Cwpan Rygbi’r Byd yn 2023. Y bachwr Liam Belcher a’r prop pen-rhydd Rhys Carre fydd yn dechrau ar y fainc gyda Francis fel opsiynau ar gyfer y rheng flaen.
Harri Deaves, enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Seland Newydd fis Tachwedd diwethaf, Ben Carter a Taine Plumtree yw’r tri blaenwr arall fydd yn dechrau ar y fainc.
O safbwynt yr olwyr, mae Mason Grady ar fin gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ers Cyfres yr Hydref yn 2024 ac mae Kieran Hardy wedi ei ddewis hefyd.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy: “Mae Cymru’n erbyn Lloegr bob amser yn gêm arbennig. Ry’n ni gyd yn gwybod am yr hanes rhwng y ddwy wlad ar y maes rygbi ac ry’n ni gyd hefyd yn gwybod eu bod nhw’n chwarae rygbi gwych ar hyn o bryd.
“Wedi dweud hynny, rwy’n gwybod faint mae’n ei olygu i’n chwaraewyr ni i gynrychioli Cymru.
“Mae’r garfan wedi ymarfer yn arbennig yr wythnos yma. Rydw i eisiau gweld ni’n mynd mas i’r maes ddydd Sadwrn a rhoi’r perfformiad gorau posib y gallwn ni. Mae dechrau ein hymgyrch yn y Chwe Gwlad yn Twickenham yn tynnu dŵr i’r dannedd a dyw’r bechgyn methu ag aros.”
Wrth sôn am ddewis Josh Macleod yn flaen-asgellwr ochr agored, ychwanegodd Tandy: “Mae Josh wedi cael tipyn o anlwc gyda’i anafiadau, ond mae ganddo lawer iawn o rinweddau. Mae’n arweinydd greddfol, mae ei sylw i fanylder wrth ymarfer yn wych ac mae’n ymarfer gyda dwyster arbennig sy’n ei wneud yn chwaraewr o wir safon. Mae’n rhoi popeth dros yr achos a bydd yn wych ei weld ar y cae ddydd Sadwrn.”
Wales team v England – Guinness Six Nations | Tîm Cymru v Lloegr – Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026
15. Louis Rees-Zammit (Bristol Bears | Bryste – 35 caps)
14. Ellis Mee (Scarlets – 4 caps)
13. Eddie James (Scarlets – 4 caps)
12. Ben Thomas (Cardiff Rugby | Caerdydd – 17 caps)
11. Josh Adams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 65 caps)
10. Dan Edwards (Ospreys | Gweilch – 7 caps)
9. Tomos Williams (Gloucester Rugby | Caerloyw – 67 caps)
1. Nicky Smith (Leicester Tigers | Caerlŷr – 58 caps)
2. Dewi Lake (Ospreys | Gweilch – 26 caps) captain | capten
3. Archie Griffin (Bath Rugby | Caerfaddon – 11 caps)
4. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs | Caerwysg – 26 caps)
5. Adam Beard (Montpellier – 61 caps)
6. Alex Mann (Cardiff Rugby | Caerdydd – 11 caps)
7. Josh Macleod (Scarlets – 4 caps)
8. Aaron Wainwright (Dragons | Dreigiau – 62 caps)
Replacements | Eilyddion
16. Liam Belcher (Cardiff Rugby | Caerdydd – 4 caps)
17. Rhys Carre (Saracens | Saraseniaid – 23 caps)
18. Tomas Francis (Provence Rugby – 77 caps)
19. Ben Carter (Dragons / Dreigiau – 14 caps)
20. Taine Plumtree (Scarlets – 11 caps)
21. Harri Deaves (Ospreys | Gweilch – 1 cap)
22. Kieran Hardy (Ospreys | Gweilch – 28 caps)
23. Mason Grady (Cardiff Rugby | Caerdydd – 15 caps)
4 Ospreys named in Wales team to face England
5th February
International