Gareth Thomas

Two Ospreys named in Wales squad to play Australia

Two Ospreys have been named in the Wales team to play Australia at Principality Stadium in the sixth round of the Nations Championship on Saturday 21 November, KO 20.10h.

There are four changes to the starting XV who beat New Zealand 35-28 in round five.


From the Ospreys, Gareth Thomas and Reuben Morgan Williams have both been named in the squad, while Dan Edwards misses out through injury.

Aaron Wainwright returns from injury to start at No. 8. Alex Mann is selected at blindside flanker, with Jac Morgan continuing at openside flanker.

Ben Carter starts in the second row alongside Dafydd Jenkins.

In the back line there is one change, as Josh Adams returns on the wing.

Among the replacements Kane James is in line to make his first home appearance for Wales, having won his first cap away to Argentina in round two of the competition. 

Tandy said: “We were all immensely proud to make history last week. There’s a new opportunity and challenge for us against Australia and we’re looking to back up our performance this weekend.

“It’s our last home game of this competition. The support that fans give to the players and staff has been incredible and we can’t wait to get back out at Principality Stadium.”

Following Saturday night’s match Wales will have their final position in the Northern Hemisphere table confirmed along with their opponents for Finals Weekend.

Six matches will take place over three days at Allianz Stadium, Twickenham where all 12 teams will compete for their final placing in the Nations Championship, as well as to earn points for their group to decide whether north or south triumphs in the sport this year.

Jarrod Evans has been called up to the wider Wales Nations Championship squad as Dan Edwards sustained an ankle injury in training this week.

--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Mae’r Prif Hyfforddwr Steve Tandy wedi cyhoeddi tîm Cymru i wynebu Awstralia yn Stadiwm Principality yn chweched rownd y gemau ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, ddydd Sadwrn 21 Tachwedd, (20:10).

Prynwch eich tocynnau nawr i brofi a rhannu gwefr Stadiwm Principality.

Mae Steve Tandy wedi gwneud pedwar newid i’r pymtheg cychwynnol gurodd Seland Newydd o 35-28 yn y bumed rownd o gemau’r Sadwrn diwethaf.

Yn y rheng ôl, mae Aaron Wainwright yn dychwelyd o anaf i ddechrau yn safle’r wythwr. Mae Alex Mann wedi’i ddewis yn flaen-asgellwr ochr dywyll, ac mae Jac Morgan yn parhau ar yr ochr agored.

Bydd Ben Carter yn dechrau yn yr ail reng gyda Dafydd Jenkins.

Ymysg yr olwyr, mae un newid, gyda Josh Adams yn dychwelyd i’r asgell.

Ymhlith yr eilyddion, mae Kane James ar fin chwarae ei gêm gartref gyntaf dros Gymru, ar ôl iddo ennill ei gap cyntaf yn Ariannin yn ail rownd o gemau’r gystadleuaeth dros yr haf.

Dywedodd Steve Tandy: “Roedden ni gyd mor falch ein bod wedi llwyddo i greu tipyn o hanes y penwythnos diwethaf. Mae’r wythnos yma’n cynnig cyfle a her arall i ni wrth i ni wynebu Awstralia ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld os allwn ni berfformio gystal yr wythnos hon hefyd.

“Dyma’n gêm gartref olaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd. Mae’r gefnogaeth ry’n ni wedi ei derbyn yn ein gemau cartref wedi bod yn wych ac mae’r chwaraewyr a’r staff yn gwerthfawrogi hynny’n fawr. Mae pawb yn awchu i fynd yn ôl i Stadiwm Principality y penwythnos yma.”

Yn dilyn gêm nos Sadwrn, bydd safle terfynol Cymru yn nhabl Hemisffer y Gogledd yn cael ei gadarnhau, ynghyd â’u gwrthwynebwyr ar gyfer Penwythnos y Rowndiau Terfynol.

Bydd chwe gêm yn cael eu cynnal dros dri diwrnod yn Stadiwm Allianz, Twickenham, lle bydd pob un o’r 12 tîm yn cystadlu i sicrhau eu safle terfynol ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd. Mae’n bwysig cofio hefyd bod pob gwlad yn ennill pwyntiau dros eu Hemisffer eu hunain – ac felly erbyn diwedd y penwythnos terfynol byddwn yn gwybod os mai Hemisffer y De neu’r Gogledd sydd gryfaf.

Mae Jarrod Evans wedi cael ei alw i garfan ehangach Cymru ar gyfer gweddill Pencampwriaeth y Cenhedloedd eleni wedi i Dan Edwards ddioddef anaf i’w bigwrn wrth ymarfer yr wythnos hon.

Wales team to face Australia at Principality Stadium | Tîm Cymru i wynebu Awstralia yn Stadiwm Principality
Saturday 21 November, KO 20.10h. Live on ITV and S4C | Ddydd Sadwrn 21 Tachwedd, am 20:10. Yn fyw ar S4C ac ITV

15. Blair Murray (Scarlets – 21 caps) 
14. Louis Rees-Zammit (Bristol Bears | Bryste – 45 caps)
13. Eddie James (Scarlets – 13 caps)
12. Max Llewellyn (Gloucester Rugby | Caerloyw – 15 caps)
11. Josh Adams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 74 caps)
10. Sam Costelow (Scarlets – 24 caps)
9. Tomos Williams (Saracens | Saraseniaid – 77 caps)
1. Nicky Smith (Sale Sharks – 68 caps)
2. Dewi Lake (Gloucester Rugby | Caerloyw – 36 caps) Captain | Capten
3. Archie Griffin (Bath Rugby | Caerfaddon – 18 caps)
4. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs | Caerwysg – 33 caps)
5. Ben Carter (Dragons | Dreigiau – 23 caps)
6. Alex Mann (Cardiff Rugby | Caerdydd – 19 caps)
7. Jac Morgan (Gloucester Rugby | Caerloyw – 29 caps) 
8. Aaron Wainwright (Leicester Tigers | Caerlŷr – 71 caps)

Replacements | Eilyddion
16. Ryan Elias (Scarlets – 53 caps)
17. Gareth Thomas (Ospreys | Gweilch – 45 caps)
18. Dillon Lewis (Dragons | Dreigiau – 61 caps)
19. Taine Plumtree (Scarlets – 16 caps)
20. Kane James (Exeter Chiefs | Caerwysg – 1 cap)
21. Reuben Morgan-Williams (Ospreys | Gweilch – 4 caps)
22. Joe Hawkins (Scarlets – 14 caps)
23. Louie Hennessey (Bath Rugby | Caerfaddon – 2 caps)