Mini Judgement Day

More than 800 junior rugby players from across Wales heading to Cardiff this weekend for Judgement Day tournament

Hundreds of junior rugby players from 62 community clubs across Wales will be heading to Cardiff this weekend for a major tag rugby tournament ahead of the Welsh Rugby double-header 

‘Judgement Day’ at Cardiff City Stadium 

A major rugby festival for junior players will take place in Cardiff this Saturday [1 June], ahead of Welsh rugby’s double-derby ‘Judgement Day’ fixture at Cardiff City Stadium.

The ‘Mini Judgement Day’ rugby festival, sponsored by BT, and run by the community teams of Cardiff Rugby, Dragons RFC, Ospreys and Scarlets will see more than 800 under-7s and under-8s players from clubs across Wales come together for an inter-club, mini ‘tag’ rugby tournament at Cardiff’s Leckwith Stadium.

Junior players taking part will be presented with medals from senior players from Scarlets, Ospreys, Cardiff Rugby and Dragons RFC before participants and their families have the chance to head across the road to watch the Judgement Day matches between Scarlets and Dragons and Cardiff Rugby Vs Ospreys at Cardiff City Stadium.

BT has sponsored all four pro rugby teams in Wales – Ospreys, Cardiff Rugby, Scarlets and Dragons RFC – since 2014, marking ten consecutive years as sponsor.

Nick Speed, BT Group’s Head of Nations and Regions, said: “It’s great we have so many young players and their families heading to Cardiff again this year to take part in this big event.

“Supporting grassroots rugby and community events like this has been a major part of BT’s sponsorship of the Welsh clubs over the last decade. For these junior players, having the chance to play against teams from across Wales, and then receiving a medal from one of the pro players, will create lifelong memories.” 

A total of 62 junior teams from across Wales will attend the event, resulting in around 800 under-7s and under-8s playing in the tag rugby tournament. 

Tanya Evans, Team Manager and coach of Bridgend Sports U7 team, who will be taking part in the rugby festival on Saturday, said: “The BT Community Festival is such a big event and a chance for our players to celebrate all they have learnt throughout the season. Our players are very excited and gives them the opportunity to play other teams from outside our area, widening their perspectives and building new skills and friendships that will last.

“Festivals like this one show that rugby is a game for everyone and we see friendships, memories and bonds created that last. It’s huge for these youngsters.” 

Dylan Davies, Chairman of Bethesda rugby club’s Minis and Juniors section, said the festival was the highlight of their season and the five-hour coach trip down from the north of Wales would create a great bond between the players. 

“This is like a mini tour for our teams and a highlight of their season, creating a special bond within our community from parents, to coaches and players and the chance for our teams to play new teams in the south,” he said. 

“To be handed medals after the games by Wales and British and Irish Lions players is something these players will never forget and the scale of the event is really amazing for everyone to be a part of.”

Kristian Gay, Coach of Abertillery RFC mini and juniors, said the event can help inspire the youngsters involved and develop their skills. 

“The BT Community Festival is such an important, memorable and special event for all the teams involved and brings together all the parents and supporters from all different backgrounds and locations in one big celebration of our game in Wales. 

“Rugby at this age is so important in helping building soft skills, communication skills, friendship groups, confidence and it’s great because there is always a place for you in rugby, whatever your shape or size, or wherever you come from. 

“At this age, to have events like the BT Community Festival inspires young players and represents the epitome and values of our game.”

Volunteers from BT and EE sites across Wales (Swansea, Cardiff and Merthyr Tydfil) will also be in attendance to support the festival, working with the community rugby teams.

 

800 o chwaraewyr rygbi iau o bob rhan o Gymru yng Nghaerdydd y penwythnos yma ar gyfer twrnamaint Dydd y Farn

Bydd cannoedd o chwaraewyr rygbi iau o 62 o glybiau cymunedol ledled Cymru yn mynd i Gaerdydd y penwythnos hwn ar gyfer twrnamaint rygbi tag mawr, fydd yn digwydd cyn gemau mawr ‘Dydd y Farn’ yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Bydd gŵyl rygbi fawr i chwaraewyr iau yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn [1 Mehefin], cyn gêm ddarbi dwbl rygbi Cymru ‘Dydd y Farn’ yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd yr ŵyl rygbi, sy’n cael ei noddi gan BT, yn cael ei drefnu gan dimau cymunedol Rygbi Caerdydd, Clwb Rygbi’r Dreigiau, y Gweilch a’r Scarlets. Bydd mwy na 800 o chwaraewyr dan 7 a dan 8 o glybiau ledled Cymru yn dod at ei gilydd ar gyfer y twrnamaint rygbi 'tag' rhyng-glwb yn Stadiwm Lecwydd Caerdydd.

Bydd y chwaraewyr iau sy’n cymryd rhan yn cael eu cyflwyno â medalau gan chwaraewyr proffesiynol o’r Scarlets, y Gweilch, Rygbi Caerdydd a Chlwb Rygbi’r Dreigiau cyn iddyn nhw, a’u teuluoedd, gael cyfle i fynd ar draws y ffordd i wylio gemau Dydd y Farn rhwng y Scarlets a’r Dreigiau a Rygbi Caerdydd yn erbyn Gweilch yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae BT wedi noddi pob un o’r pedwar tîm rygbi proffesiynol yng Nghymru – y Gweilch, Rygbi Caerdydd, y Scarlets a Chlwb Rygbi’r Dreigiau – ers 2014, gan nodi deng mlynedd yn olynol fel noddwr.

Dywedodd Nick Speed, Pennaeth Cenhedloedd a Rhanbarthau BT Group: “Mae’n wych bod gennym ni gymaint o chwaraewyr ifanc a’u teuluoedd yn mynd i Gaerdydd eto eleni i gymryd rhan yn y digwyddiad mawr yma.

“Mae cefnogi rygbi ar lawr gwlad a digwyddiadau cymunedol fel hyn wedi bod yn rhan fawr o bartneriaeth BT gyda chlybiau Cymru dros y ddegawd ddiwethaf. I’r chwaraewyr iau yma, bydd cael y cyfle i chwarae yn erbyn timau o bob rhan o Gymru, ac yna derbyn medal gan un o’r chwaraewyr proffesiynol, yn creu atgofion gydol oes.”

Bydd cyfanswm o 62 o dimau iau o bob rhan o Gymru yn mynychu’r digwyddiad, gyda tua 800 o blant dan 7 a dan 8 yn chwarae yn y twrnamaint rygbi tag.

Dywedodd Tanya Evans, Rheolwr Tîm a hyfforddwr tîm dan 7 Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr, a fydd yn cymryd rhan yn yr ŵyl rygbi ddydd Sadwrn: “Mae Gŵyl Gymunedol BT yn ddigwyddiad mor fawr ac yn gyfle i’n chwaraewyr ddathlu’r cyfan maen nhw wedi’i ddysgu drwy gydol y tymor. Mae ein chwaraewyr wedi cyffroi ac mae’n rhoi’r cyfle iddynt chwarae timau eraill o’r tu allan i’n hardal, gan ehangu eu safbwyntiau a meithrin sgiliau a chyfeillgarwch newydd a fydd yn para.

“Mae gwyliau fel hon yn dangos bod rygbi yn gêm i bawb ac rydyn ni’n gweld cyfeillgarwch, atgofion a bondiau’n cael eu creu. Mae’n enfawr i’r bobl ifanc hyn.”

Dywedodd Dylan Davies, Cadeirydd Adran Iau a Minis clwb rygbi Bethesda, mai’r ŵyl oedd uchafbwynt eu tymor ac y byddai’r chwaraewyr yn bondio ar y daith bws bum awr i lawr o ogledd Cymru.

“Mae hon fel taith fach i’n timau ac uchafbwynt eu tymor, gan greu awyrgylch arbennig o fewn ein cymuned, o’r rhieni i’r hyfforddwyr, ac yn gyfle i’r chwaraewyr wynebu timau newydd yn y de,” meddai.

“Mae cael medalau ar ôl y gemau gan chwaraewyr Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon yn rhywbeth na fydd y chwaraewyr yma byth yn ei anghofio ac mae maint y digwyddiad yn wirioneddol anhygoel i bawb fod yn rhan ohono.”

Dywedodd Kristian Gay, Hyfforddwr Clwb Rygbi mini a phlant iau Abertyleri, y gall y digwyddiad helpu i ysbrydoli'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan a datblygu eu sgiliau.

“Mae Gŵyl Gymunedol BT yn ddigwyddiad mor bwysig, cofiadwy ac arbennig i’r holl dimau sy’n cymryd rhan ac mae’n dod â’r holl rieni a chefnogwyr o bob cefndir a lleoliad gwahanol ynghyd mewn un dathliad mawr o’n gêm yng Nghymru.

“Mae rygbi yn yr oedran hwn mor bwysig wrth helpu i feithrin sgiliau meddal, sgiliau cyfathrebu, ehangu grwpiau cyfeillgarwch, magu hyder ac mae’n wych oherwydd mae na le i bawb o fewn rygbi, beth bynnag fo’ch siâp neu faint, neu o ble bynnag rydych chi’n dod.

“Yn yr oes hon mae cael digwyddiadau fel Gwyl Cymunedol BT yn ysbrydoli chwaraewyr ifanc ac yn cynrychioli gwir ystyr a gwerthoedd ein gêm.”

Bydd gwirfoddolwyr o BT ac EE ledled Cymru (o Abertawe, Caerdydd a Merthyr Tudful) hefyd yn bresennol i gefnogi’r ŵyl, gan weithio gyda’r timau rygbi cymunedol.