Save a Life Cymru
Save a Life Cymru is Wales’ national organisation to improve cardiac arrest survival in Wales. It promotes CPR and defibrillation within communities and encourages everyone in Wales to learn or to top up these lifesaving skills.
Data reveals that every year in Wales more than 6,000 people will have a sudden cardiac arrest and around 80% of those will happen in the home. Almost one in four of us (24%) have witnessed someone collapse and possibly need bystander CPR and defibrillation intervention. Yet, less than half of adults in Wales are confident in performing CPR.
The “help is closer than you think’ campaign aims to increase survival in Wales by encouraging people to learn CPR and use a defibrillator and be more confident and willing to intervene if a cardiac arrest happens. You are not on your own - call 999 and the call taker will give instructions for CPR and can locate the nearest registered defibrillator and despatch an ambulance crew.
A person’s chance of surviving a cardiac arrest will decrease by 10% with every passing minute if CPR and defibrillation is not performed. Even if you aren’t trained in CPR, you need to have the confidence to act quickly and do something because ultimately, you could save a life.
It’s a common misconception that cardiac arrests happen to men of a certain age, but research shows that’s not the case. Men and women of all ages and even children can have a sudden cardiac arrest.
If a cardiac arrest happens, help is closer than you think. Call 999. The call taker will tell you what to do, talk you through how to do CPR, direct you to the nearest registered defibrillator, and will also send an ambulance crew.
A free, easy to follow, training video is available to watch on the Save a Life Cymru website. You can find out more at https://collaborative.nhs.wales/SaLC.
Achub Bywyd Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol i wella cyfraddau goroesi ataliad y galon yng Nghymru. Mae’r sefydliad yn hyrwyddo CPR a diffibrilio o fewn cymunedau ac mae’n annog pawb yng Nghymru i ddysgu neu ddatblygu eu sgiliau achub bywyd.
Mae data newydd yn dangos y bydd dros 6,000 o bobl yn cael ataliad y galon bob blwyddyn yng Nghymru a bydd tua 80% o’r rheini’n digwydd yn y cartref. Mae bron i un o bob pedwar ohonom (24%) wedi gweld rhywun yn cwympo a lle roedd angen, o bosibl, rhywun wrth law i roi CPR ac ymyrryd yn gynnar â diffibriliwr. Ond eto, llai na hanner yr oedolion yng Nghymru sy’n teimlo’n ddigon hyderus i roi CPR.
Nod yr ymgyrch “Cofiwch, mae help wrth law” yw cynyddu cyfraddau goroesi yng Nghymru drwy annog pobl i ddysgu CPR a defnyddio diffib a bod yn fwy hyderus a pharod i ymyrryd os bydd rhywun yn cael ataliad y galon. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun – ffoniwch 999 a bydd y derbyniwr galwadau yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar sut i roi CPR, yn gallu dweud lle mae’r diffib cofrestredig agosaf, ac yn anfon criw ambiwlans atoch ar unwaith.
Bydd siawns person o oroesi ataliad y galon, yn gostwng 10% gyda phob munud sy’n mynd heibio os nad yw’r claf yn cael CPR a’i ddiffibrilio. Hyd yn oed os nad ydych chi erioed wedi cael hyfforddiant, mae gwneud rhywbeth yn well na dim – gallwch chi achub bywyd.
Mae’n gamsyniad cyffredin bod ataliad y galon yn digwydd i ddynion o oedran penodol, ond mae ymchwil yn dangos nad yw hynny’n wir. Gall dynion a menywod o bob oed a phlant gael ataliad sydyn ar y galon.
Os mae ataliad y galon yn digwydd, cofiwch, mae help wrth law. Ffoniwch 999. Bydd y derbyniwr galwadau yn dweud wrthych beth i’w wneud, eich arwain i roi CPR, yn eich cyfeirio at y diffib cofrestredig agosaf ac yn anfon criw ambiwlans atoch yn syth.
Mae fideo hyfforddi, sy’n hawdd i’w ddilyn, ar gael i’w wylio ar wefan Achub Bywyd Cymru. Ewch i: https://cydweithrediad.gig.cymru/rhwydweithiau/y-galon/achub-bywyd-cymru/