Jac Morgan Wales Training

Yng Ngharfan Cymru: Jac Morgan

Mae’n anrhydedd mawr i fi a dwi’n bles iawn. Roeddwn i’n falch pan glywais i’r newyddion, roeddwn i’n hyfforddi ar y pryd a waeddod un o’r ffisios draw ataf i yng nghanol sesiwn. Dyna sut nes i ffeindio mas bo fi wedi cael fy newis!

Tra roeddwn i’n chwarae dros Gymru D20, roedd hi’n ysbrydolaeth enfawr gweld y bois hŷn yn hyfforddi yn y Fro. Mae’n rhywle ti moyn bod, roedd eu gweld nhw’n ardderchog ac yn rhoi rhywbeth i ti anelu at.

Jac Morgan
"Dwi’n edrych ymlaen at fynd i’r garfan a datblygu fy ngêm, dysgu gan eraill, a gweld sut mae nhw’n hyfforddi"

Roedd hi’n benderfyniad mawr i fi symud o’r Scarlets i’r Gweilch, ond mae wedi cael dylanwad enfawr arnaf i o rhan datblygiad, yn enwedig gyda’r hyfforddwyr sy’ ‘da fi yn y Gweilch sydd yn gweithio’n galed gyda fi i ddatblygu’n ngêm a gwella fel chwaraewr. Dwi wedi mwynhau yn fawr ers dod yma, dwi’n dwli ar y rygbi, a dwi’n edrych ymlaen i weld sut mae’n mynd gyda’r Gweilch yn y dyfodol.

Rydw i wedi bod yn eithaf ffodus cael gemau gyda’r Gweilch a chwarae’n aml. Mae hyny’n helpu datblygu sgiliau a hyder, a ti’n dysgu bob gêm, ac yn trio gwella bob tro. Mae’r bois a’r chwaraewyr sydd fan hyn yn grêt ac mae chwarae ar y cyd gyda nhw yn fy helpu i.

Mae’r cystadleuaeth yn y rheng ôl yng Nghymru yn ardderchog. Dwi’n edrych ymlaen at fynd i’r garfan a datblygu fy ngêm, dysgu gan eraill, a gweld sut mae nhw’n hyfforddi. Mae hyny’n allweddol os ti am barhau i ddatblygu. Dwi just moyn mynd mewn yna a chael y profiad.

Dyna’r nod bennaf, dwi moyn trio gwella. Cael gweld sut mae’n mynd a gwneud y gorau dwi gallu; trio datblygu fel chwaraewr, dysgu gan yr hyffordwyr, gwneud ffrindiau, a mwynhau.

YN ÔL I’R RHAGLEN