Barton

Three Ospreys in Wales squad to face England

Three Ospreys have been named in Warren Gatland's Wales side to face England at Twickenham Stadium in the second round of the 2024 Guinness Six Nations on Saturday 10 February (KO 4.45pm live on ITV and S4C).

Gareth Thomas, George North and Adam Beard will represent the Ospreys this week.

North returns to the Wales starting XV in what will be his 50th Six Nations appearance. He partners Nick Tompkins in the midfield.

Following his try scoring debut last weekend, Alex Mann will make his first senior international start having been named at blind-side flanker. Tommy Reffell (open-side flanker) and Aaron Wainwright (No. 8) complete the Wales back row.

Tomos Williams starts at scrum-half, with Ioan Lloyd alongside him at fly-half.

Loose-head prop Gareth Thomas returns from injury to make his first appearance of the 2024 Guinness Six Nations. Hooker Elliot Dee and tight-head prop Keiron Assiratti who were both replacements against Scotland make their first starts of this Championship.

Captain Dafydd Jenkins and Adam Beard continue their second row partnership.

Cameron Winnett is again named at full-back, with Rio Dyer and Josh Adams selected on the wings.

Among the replacements tight-head prop Archie Griffin is in line to win his first senior international cap this weekend, while Cai Evans would make his Six Nations debut.

Second row Will Rowlands, back row Taine Basham and scrum half Kieran Hardy all return to the Wales match day 23. Rowlands would be making his first Six Nations appearance since 2022 having missed last year’s Championship through injury.

Corey Domachowski (loose-head prop) and Ryan Elias (hooker) provide the remaining forward cover. Mason Grady is the final replacement back.

Gatland said: “We’ve been critical and tough on ourselves this week. That first half was nowhere near the standards we expect. We simply cannot start the same way this Saturday.

“We showed in the second half against Scotland what we are capable of. Now it’s about building on that performance and playing with some tempo from the off.

“We’ve made a few changes to the starting line-up this weekend which gives opportunities to the players coming in. We need to be accurate and keep our discipline.

“This is a massive game, not only because of the history and what it means to everyone in Wales. But it’s an opportunity to get things on track a bit more. England are in a rebuilding phase. We’ll go there with a lot of confidence we can build on that second-half and belief."

-----------------------------------------------------------------------

Mae’r Prif Hyfforddwr, Warren Gatland, wedi enwi tîm Cymru i wynebu Lloegr yn Stadiwm Twickenham yn ail rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 ddydd Sadwrn 10 Chwefror (4.45pm yn fyw ar S4C ac ITV).

Wedi iddo wella o anaf i’w ysgwydd, bydd George North yn dychwelyd i'r tîm i wneud ei 50fed ymddangosiad yn y Chwe Gwlad. Nick Tompkins fydd ei bartner yng nghanol y cae.

Yn dilyn ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf - a’i gais cyntaf - y penwythnos diwethaf, bydd Alex Mann yn dechrau ei gêm ryngwladol gyntaf, fel blaenasgellwr ochr dywyll.Tommy Reffell (blaenasgellwr ochr agored) ac Aaron Wainwright (Wythwr) fydd yn cwblhau’r rheng ôl.

Tomos Williams fydd yn dechrau yn safle’r mewnwr, gyda Ioan Lloyd wedi ei ddewis i ddechrau’n faswr.

Mae'r prop pen rhydd Gareth Thomas yn dychwelyd o anaf i wneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024. Daeth y bachwr Elliot Dee a'r prop pen tynn Keiron Assiratti i’r maes fel eilyddion yn erbyn Yr Alban ddydd Sadwrn diwethaf – ac mae’r ddau’n cael y cyfle i ddechrau’r gêm yn Nhwickenham.

Mae'r capten Dafydd Jenkins ac Adam Beard yn parhau â'u partneriaeth yn yr ail reng.

Mae Cameron Winnett wedi'i enwi unwaith eto yn gefnwr, gyda Rio Dyer a Josh Adams wedi'u dewis ar yr esgyll.

Ymhlith yr eilyddion mae’n debygol y bydd y prop pen tynn, Archie Griffin, yn ennill ei gap rhyngwladol cyntaf y penwythnos hwn, tra byddai Cai Evans yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Chwe Gwlad os y caiff ei alw o’r fainc.

Mae’r clo Will Rowlands, y chwaraewr rheng ôl Taine Basham a'r mewnwr Kieran Hardy i gyd yn dychwelyd i garfan y gêm. Nid yw Rowlands wedi chwarae yn y Chwe Gwlad ers 2022 gan iddo golli’r Bencampwriaeth y llynedd o ganlyniad i anaf.

Corey Domachowski (prop pen rhydd), Ryan Elias (bachwr) a Mason Grady yw’r tri eilydd arall i’w dewis ar gyfer carfan y gêm.


Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland:“Ry’n ni wedi bod yn eithaf beirniadol o ni’n hunain yr wythnos hon.’Doedd ein perfformiad hanner cyntaf ddydd Sadwrn ddim yn dderbyniol o ystyried y safonau ry’n ni wedi eu gosod i ni’n hunain. Allwn ni ddim dechrau fel yna eto’r Sadwrn hwn.

“Fe ddangoson ni beth ry’n ni’n gallu ei wneud yn ystod yr ail hanner yn erbyn Yr Alban. Mater o adeiladu ar hynny a chwarae gyda’r un cyflymdra a dwyster o’r dechrau yw’r bwriad yn Twickenham.

“Ry’n ni wedi gwneud rhai newidiadau i’r pymtheg fydd yn dechrau, sy’n cynnig cyfleoedd i’r chwaraewyr hynny. Mae’n rhaid i ni fod yn gywir a disgybledig yn ein chwarae.

“Mae hon yn gêm anferth – nid yn unig oherwydd yr hanes a’r hyn y mae herio’r Hen Elyn yn ei olygu i bobl Cymru. Yn ychwanegol at hynny - mae hwn yn gyfle i ni gyrraedd y safonau disgwyliedg unwaith eto.

“Mae Lloegr eu hunain yn mynd trwy gyfnod o newid ac felly byddwn yn mynd yno gyda hyder y gallwn adeiladu ar ein perfformiad ail hanner yr wythnos ddiwethaf gan arddangos yr un hunan gred y dangoson ni yn ystod y deugain munud hwnnw hefyd.”

Wales senior men’s team to play England at Twickenham Stadium in the Guinness Six Nations, Saturday 10 February KO 4.45pm GMT. Live on ITV and S4C.

Tîm Cymru i chwarae Lloegr yn Stadiwm Twickenham ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024, ddydd Sadwrn 10 Chwefror 4.45pm. Yn fyw ar S4C ac ITV.


15. Cameron Winnett (Cardiff Rugby / Caerdydd – 1 cap)
14. Josh Adams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 55 caps)
13. George North (Ospreys / Gweilch – 118 caps)
12. Nick Tompkins (Saracens / Saraseniaid – 33 caps)
11. Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 15 caps)
10. Ioan Lloyd (Scarlets – 3 caps)
9. Tomos Williams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 54 caps)
1. Gareth Thomas (Ospreys / Gweilch – 26 caps)
2. Elliot Dee (Dragons / Dreigiau – 47 caps)
3. Keiron Assiratti (Cardiff Rugby / Caerdydd – 3 caps)
4. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 13 caps) Captain / Capten
5. Adam Beard (Ospreys / Gweilch – 52 caps)
6. Alex Mann (Cardiff Rugby / Caerdydd – 1 cap)
7. Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr – 14 caps)
8. Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 44 caps)

Replacements

16. Ryan Elias (Scarlets – 39 caps)
17. Corey Domachowski (Cardiff Rugby / Caerdydd – 7 caps)
18. Archie Griffin (Bath Rugby – uncapped / heb gap)
19. Will Rowlands (Racing 92 – 29 caps)
20. Taine Basham (Dragons / Dreigiau – 16 caps)
21. Kieran Hardy (Scarlets – 18 caps)
22. Cai Evans (Dragons / Dreigiau – 1 cap)
23. Mason Grady (Cardiff Rugby / Caerdydd – 7 caps)