Sgwrs gyda Cory Allen

Sgoriodd e dau cais y tro olaf chwaraeon ni Worcester Warriors, a nawr mae Cory Allen yn edrych ymlaen I’r gêmau dychwelyd.

“Rydyn ni’n edrych ymalen I chwarae nhw gatref. Os ni’n gallu ennill ar ddydd Sadwrn mae safle gyda ni i mynd trwy I’r rownd nesaf yn y cystadleuaeth." 

"Beth fi’n mwynhau yn cystadleuath yma, yw chwarae erbyn timau wahanol a chwaraewyr wahanol. Does dim llawer o cyfleoedd I chwarae erbyn timau fel Worcester neu ochrau arall yn y premiership fel y clybiau yn y cynghrair PRO14. Felly mae’n neis I weld beth ni’n gallu wneud erbyn ochrau wahanol.” 

Y tro diwethaf, wnaeth y ddau dim gwrdd, ddaeth yr Ospreys nôl o 21-0 lawr ar yr hanner I sgorio tri chais yn yr ail hanner i ddod ar sgor terfynnol i 27-21 i Gaerwrangon.

Dweudodd Allen: “Mae nhw’n tim da, tim mawr a mae pac mawr gyda nhw. Daethon ni dod nôl yn yr ail hanner amser diwethaf, a mae digon o hyder gyda ni I fynd mas ar Ddydd Sadwrn I guro nhw. Yn enwedig pan ni’n gatre.”

“Rydyn ni wedi bod yn gryf bob gêm catref mewn Ewrop. Mae’n bwysig yn cystadleuaeth I ennill bob gêm catref felly dwi’n mynd yn gryf eto. Ond rydyn ni’n disgwyl Gaerwrangon I wneud yr un peth. Mae nhw’n top o’r tabl a mae nwh’n mynd I eisau aros na.”

“Os ni’n ennill ar y penwythnos, dw I ddim yn rhy siwr beth mae rhaid I ni wneud ar y cyfan, ond os ma siawns o ni I mynd trwy I’r rownd nesaf ni’n mynd I gymryd y cyfle a wneud hwnna.”

“Mae cwpl o anafiadau blaenwyr. Mae Adam yn iawn nawr ond ni’n colli Rhod sy bod chwaraewyr enfawr I ni blwyddyn yma. Nawr mae’n rhoi’r cyfle o chwaraewyr ifanc I sefyll lan a chwarae lefel mor uchel a chymryd eu siawns.”

Y canolwr wedi chwarae mewn bob pedwar o’r gêmau pwll a mae e wedi sgorio pedwar cais dros y cystadleuaeth. Yn ogystal a hwn, ennillodd e seren y gêm yn y ennill dros Stade Francais yn y Stadwim y Liberty.

“Dwi’n mwynhau chwarae rygbi y blwyddyn yma. Mae spel heb anaf gyda fi a dwi’n hapus iawn gyda’r ffordd dwi’n chwarae ar hyn o bryd. Dwi’n gobeithio dwi’n gallu cario ymlaen gyda hwnna.”

 

https://www.eticketing.co.uk/ospreysrugby/