Kayleigh Powell

Powell a Tuipulotu wedi arwyddo cytundebau cadw â thîm Menywod Cymru

Mae cefnwr Eirth Bryste Kayleigh Powell ac ail reng Caerloyw-Hartpury Sisilia Tuipulotu wedi arwyddo cytundebau cadw â thîm Menywod Cymru ac wedi ymuno â’r rhaglen.

Meddai prif hyfforddwr Menywod Cymru, Ioan Cunningham, “Mae’r ddwy chwaraewraig yn addawol iawn ac roedd hi’n wych cael dod i’w nabod yn well yn ein gwersyll diweddar. Roedden ni’n awyddus iawn i’w cael nhw yn yr amgylchedd yma gan ein bod yn credu bod potensial gyda nhw. Mae Sisilia yn ifanc iawn ond mae’r dylanwad y gallai hi ei gael dros y blynyddoedd i’w ddod yn enfawr. Nawr ei bod hi’n medru hyfforddi gyda ni’n wythnosol, rydym yn meddwl bydd hi’n datblygu’n gorfforol ac yn dechnegol.”

“Roedden ni’n awyddus i gadw llygad ar gynnydd Kayleigh ers iddi ddychwelyd o’i hanaf ac roedd hi’n wych ei gweld hi yn ein gwersyll wythnos diwethaf. Mae gêm gicio ragorol gyda hi ac mae ei sgiliau trafod y bêl yn cynnig cydbwysedd o fewn ein tri ôl.”

Mae Powell, 22, wedi hawlio pum cap ers ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn ôl yn 2019 ac mae hi wedi brwydro yn ôl wedi cyfres o anafiadau gafodd hi llynedd. Mae hi’n gweithio fel swyddog cyfranogiad gyda’r Gweilch yn y Gymuned ac mae cytundeb cadw yn galluogi iddi symud o weithio llawn-amser i rôl ran-amser. Dechreuodd ei gyrfa gydag Ysgol Gynradd Llantrisant, Clwb Rygbi Llantrisant, ac yna Pencoed Phoenix cyn serennu dros dimau ieuenctid Menywod Cymru a rygbi saith bob ochr Cymru.

Er dyfodd Sisilia Tuipulotu i fyny yn chwarae rygbi gyda’i theulu, dim ond ar ôl iddi ymuno â Choleg Henffordd yn 16 dechreuodd iddi chwarae’n gystadleuol yn 16-blwydd-oed. Gwahoddodd Liza Burgess, prif hyfforddwraig yr academi hŷn yn Hartpury, i hyfforddi gyda’r academi. Nawr mae hi’n chwarae yn yr Allianz Premier 15s wrth astudio am ei gradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Sir Gaerloyw. Tad Sisilia yw Sione, a oedd yn olwr o fri gyda Tonga a Chasnewydd lle cafodd Sisilia ei geni.

Dywedodd Sisilia, “Mae’n deimlad gwych, yn enwedig wrth ystyried fy oedran a pha mor hir yr wyf wedi bod yn chwarae.

“Mae rygbi wastad wedi bod yn bwysig i fy nheulu, gan chwarae rygbi gyffwrdd a phasio’r bêl o gwmpas gyda fy mrodyr a chefndryd. Chwaraeodd dad dros Tonga a Chasnewydd, ac mae fy nghefnder Carwyn yn chwarae dros y Scarlets. Mae gwylio be maen nhw’n ei wneud yn ysbrydoli fi i fod fel nhw, neu’n well hyd yn oed. Fy mwriad i nawr yw ennill fy nghap cyntaf dros Gymru, nail ai yn y Chwe Gwlad neu yng Nghwpan Rygbi’r Byd sydd ar y gorwel.

“Cysylltodd Liza â fy ewythr i fy ngwahodd i hyfforddi yng Nghaerloyw, a hi oedd yn fy hyfforddi i yno ac yng Nghaerloyw-Hartpury cyn symud i Gaerwrangon felly diolch mawr iawn i Birdy am bob dim.”

Mae Sisilia yn dwli ar amgylchedd carfan Menywod Cymru. “Roeddwn i’n nerfus i ddechrau ond mae’r merched wedi bod yn groesawgar iawn, dwi’n teimlo'n gartrefol iawn bob tro dwi’n mynd yno.

Mae’r brifysgol yn fy nghefnogi i'r holl ffordd gyda’r cyfle yma; byddaf yn dal i fyny gyda gwaith pryd bynnag gaf gyfle.”

Ennill y cap cyntaf yw’r targed mawr nesaf. “Mae’n anodd disgrifio faint bysai’n olygu i mi ennill fy nghap gyntaf, byddai fy nheulu cyfan mor hapus.”

Mae Kayleigh hefyd wrth ei bodd bod yn ôl wedi blwyddyn rwystredig gydag anafiadau.

“Mae’n deimlad ardderchog i o’r diwedd gael neilltuo amser i rygbi. Mae’n freuddwyd gen i o hyd i gael cytundeb llawn-amser ond mae hyn yn gam positif yn y cyfeiriad cywir.

“Mae’r Gweilch yn y Gymuned wedi fy nghefnogi i drwy gydol fy ngyrfa ac maen nhw wedi galluogi i mi leihau fy nyddiau gwaith er mwyn i mi neidio ar y cyfle hwn.

“Mae wedi bod yn siwrne galed dros y flwyddyn ddiwethaf ond rwyf wedi mwynhau’r her o un safbwynt, gan wybod pa mor galed roedd rhaid i mi weithio ond hefyd gan wybod y gwobrau ar ddiwedd y daith. Yn y gwersyll hyfforddi wythnos ddiwethaf roedd i am brofi fy ngallu ac felly dwi’n bles iawn fod yr hyfforddwyr wedi rhoi eu ffydd ynof fi.

“Fy nharged nawr yw dychwelyd i ffitrwydd a datblygu fy sgiliau ledled y cae, gan gynnwys taclo, cicio, a thrafod y bêl.

“Roeddwn i’n ffodus gyda fy natblygiad rygbi gan ddod drwy rygbi cymysg gyda Llantrisant, yna tîm menywod Pencoed cyn dal sylw’r Gweilch D18 a thîm D18 Cymru saith-bob-ochr cyn symud i’r garfan hŷn. Dwi’n ymwybodol bod hi gallu bod yn anodd weithiau wrth dyfu fyny ac mae’r cytundebau yma yn dystiolaeth i ferched ledled Cymru beth maen nhw’n gallu eu cyflawni. Pan dwi’n cwrdd â merched drwy fy ngwaith dwi wastad yn awgrymu iddyn nhw gymryd bob cyfle sy’n cyflwyno eu hunain, boed hynny rygbi neu unrhyw gamp arall.”

Cytundebau Cadw Menywod Cymru:

Gwen Crabb (Caerloyw-Hartpury), Georgia Evans (Saraseniaid), Kat Evans (Saraseniaid), Cerys Hale (Caerloyw-Hartpury), Abbie Fleming (Penaethiaid Caerwysg), Kerin Lake (Caerloyw-Hartpury), Bethan Lewis (Caerloyw-Hartpury), Caitlin Lewis (Penaethiaid Caerwysg), Kayleigh Powell (Eirth Bryste), Niamh Terry (Penaethiaid Caerwysg), Sisilia Tuipulotu (Caerloyw-Hartpury)

Cytundebau Llawn-Amser:

Keira Bevan, Alisha Butchers, Natalia John, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Ffion Lewis, Siwan Lillicrap, Carys Phillips, Gwenllian Pyrs, Lisa Neumann, Donna Rose, Elinor Snowsill