Hook and Brayley

Llyfr newydd Hook a Brayley

Rydym yn falch iawn cyhoeddi bydd arwr y Gweilch, James Hook, â’i gyd awdur David Brayley yn llofnodi eu llyfr newydd “Chasing a Rugby Dream – Impact”.

Byddwch un o’r cyntaf i brynu’r ail lyfr yn y gyfres o “Chasing a Rugby Dream” cyn ei lansiad swyddogol wythnos nesaf. Bydd yr awdur arobryn a’r cyn chwaraewr yn y siop ddydd Gwener cyn y gêm o 5:30pm ymlaen.

Mae Jimmy Joseph yn mwynhau haf hir a phoeth â’i ffrindiau, yn cyfri’r diwrnodau nes iddo fynychu ei wersyll hyfforddi gyntaf erioed gyda Academi yr Eryr, tîm ieuenctid ei glwb rygbi proffesiynol lleol. Mae’n gobeithio dyma fydd ei gam fawr gyntaf ar ei daith i fod yn chwaraewr rygbi broffesiynol… ond mae tacl caled wrth hyfforddi ac ymddygiad creulon ei elyn, Mr Kane, yn arwain at Jimmy yn colli ei hyder yn gyfan gwbl. Sut bydd ef byth yn ail-ddarganfod ei gariad dros y gêm – a chyflawni ei freuddwydion rygbi – os yw e’n rhy ofnus i daclo?

Yn antur diweddaraf Jimmy a’i gyfeillion, mae James Hook a David Brayley yn dadansoddi cyfergydion â’r pen, taclo, cyfeillgarwch, teyrngarwch, a’r gwir dewrder sydd ei hangen i oresgyn eich ofnau.

Mae’r llyfr yma ar gael yn Saesneg yn unig am y tro. 

 

YN ÔL I'R RHAGLEN