Mae Dydd Cenedlaethol y Rownd Derfynol wedi cychwyn yn y stadiwm genedlaethol gyda chlybiau ledled y rhanbarth yn cystadlu. Llwyddodd dau glwb hawlio tlysau yn y dyddiau agoriadol, Trebanos a Chastell-nedd, gan chwarae rygbi diddanol o’r dechrau hys y chwiban olaf.
Trebanos v Bedwas
Roedd Trebanos yn gobeithio trechu Bedwas, tîm a oedd wedi colli tair gêm yn unig drwy gydol y tymor oll o flaen yr her yn y stadiwm ddydd Sul diwethaf.
Ychwanegodd Josh Ferriman ac Iestyn Lewis eu henwau i’r sgor-fwrdd gyda rygbi ymosodol ac i’w weld. Roedd hi’n ornest agos nes y funud olaf pan lwyddodd Matthew Edwards trosi gôl gosb i roi Trebanos ar y blaen o 23-21 a hawlio’r fuddugoliaeth a’r Plât Pencampwriaeth URC.
Castell-Nedd v Bargoed
Yn gêm nesaf i’w chwarae, roedd rhaid i Gastell-nedd goresgyn disgyn tu ôl i Fargoed I hawlio Cwpan y Bencampwriaeth. Er gwaethaf bod 10-pwynt ar eu hôl hi ar yr egwyl, brwydrodd Castell-nedd yn ôl yn yr ail hanner. Carlamodd asgellwr Castell-nedd, James Roberts, ar hyd yr ystlys chwith a doedd neb gallu ei ddal, gan sgorio cais i ddod â’i dîm yn ôl o fewn dau bwynt. Matthew Jenkins roddodd ei d6im ar y blaen ar ôl iddo faeddu ei ddyn ar gyfer yr ail gais. Roedd y cynnig am y pyst yn aflwyddiannus, gan adael y sgôr terfynol yn 16-13 o blaid y Crysau Duon.