Hook joins Swansea University Coaching setup

Ospreys, Wales and Lions rugby star James Hook becomes Swansea University attack coach

International rugby star James Hook, who played 81 times for Wales and toured with the 2009 British and Irish Lions in South Africa, has taken up the position of Attack Coach for Swansea University rugby teams.

The news comes just after he was announced as Skills and Kicking Coach at the Ospreys, where he made his name as a fly-half, though he also showed his rugby talents in other positions in the back line.

Hook scored 352 points in 81 Tests between 2006 and 2015. He was part of two Grand Slams and three Six Nations-winning sides and played in three World Cups.

He currently sits in second place on the all-time Ospreys point scorer list with 841 points. All told, he's dotted the ball over the whitewash 19 times and slotted the ball through the sticks 290 times for the region.

With the extension of the performance partnership agreement with the Ospreys, the University’s aim is to continue to develop and enhance a rugby programme that has already gained BUCS Super Rugby status and an impressive first season since teaming up with the region. Hook will join fellow Ospreys colleague Hugh Gustafson who’s the existing head coach at the University as part of the partnership. 

Speaking about his new role at the University, Hook commented:

“I’m really looking forward to working with the team at Swansea University. I really enjoyed working with the Ospreys U18s last season and now having the chance to link up with the University through the partnership with the Ospreys is an exciting prospect. It’ll be a little different to my role at the Ospreys but hopefully I can pass on my knowledge as Attack coach, and work to improve the depth and quality of players we have in the Ospreys pathway.”

The rugby club at the University has five men’s and two women’s teams competing in the British Universities and Colleges Sport (BUCS) competitions. The women’s first team compete in the BUCS Premier South (top league) and the men’s compete in BUCS Super Rugby (top league). The club welcomes all prospective players, regardless of sporting background, skill level or experience.

The University boasts a rich crop of sporting stars amongst its alumni, including Alun Wyn Jones and Siwan Lillicrap, who is also Head of Rugby at the University.

Speaking about Hook’s addition to the squad, Lillicrap added:

“It’s really exciting to have someone of James’ experience and his expertise join us as attack coach this year. He’s played at the highest level in his career and will be a great mentor for all our students.

It’s going to take us to the next level and shows just how well our partnership is working with the Ospreys.”

“The first few weeks we’ll be following WRU’s community protocols and we’re planning to start back the first week of September. We’ll have a couple of weeks pre-season applying all the guidelines. It’ll involve a lot of skills and conditioning and be a great time for James to get involved early doors and see the skill level of the boys which he can then build and work with to improve.”

At Swansea Uni, the best is yet to come! Call the Clearing Team today to discuss your options and become a part of something great! #SpaceAtSwansea or click here.

 

Arwr rygbi'r Gweilch, Cymru a'r Llewod James Hook yw hyfforddwr ymosodol Prifysgol Abertawe

Mae'r arwr rygbi rhyngwladol James Hook, a wnaeth chwarae 81 o weithiau dros Gymru a theithio gyda Llewod Prydain ac Iwerddon i Dde Affrica yn 2009, wedi derbyn swydd hyfforddwr ymosodol timau rygbi Prifysgol Abertawe.

Mae'r newyddion yn dilyn y cyhoeddiad ei fod wedi cael ei benodi'n hyfforddwr sgiliau a chicio'r Gweilch, lle daeth i'r amlwg fel maswr, er iddo hefyd ddangos ei ddoniau rygbi mewn safleoedd eraill ymhlith yr olwyr.

Sgoriodd Hook 352 o bwyntiau mewn 81 gêm ryngwladol rhwng 2006 a 2015. Cyfrannodd at ddwy Gamp Lawn a thri thîm a enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn ogystal â chwarae mewn tair cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Ar hyn o bryd, mae'n ail ar restr sgorwyr y Gweilch erioed ar ôl casglu 841 o bwyntiau. At ei gilydd, croesodd am 19 o geisiadau a chiciodd y bêl drwy'r pyst 290 o weithiau i'r rhanbarth.

Drwy ehangu'r cytundeb partneriaeth perfformiad â'r Gweilch, nod y Brifysgol yw parhau i ddatblygu a gwella rhaglen rygbi sydd eisoes wedi ennill statws Uwch-gynghrair Rygbi (Super Rugby) BUCS a mwynhau llwyddiant yn ei thymor cyntaf ar ôl dechrau gweithio gyda'r rhanbarth.

Bydd Hook yn ymuno ag un o'i gydweithwyr gyda'r Gweilch, Hugh Gustafson, sef prif hyfforddwr presennol y Brifysgol, fel rhan o'r bartneriaeth.

Wrth drafod ei rôl newydd gyda'r Brifysgol, meddai James Hook: 

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe. Roeddwn wrth fy modd yn gweithio gyda thîm dan 18 oed y Gweilch y tymor diwethaf ac mae cael y cyfle nawr i weithio gyda'r Brifysgol drwy'r bartneriaeth â'r Gweilch yn destun cyffro. Bydd ychydig yn wahanol i'm rôl gyda'r Gweilch ond gobeithio y gallaf drosglwyddo fy ngwybodaeth fel hyfforddwr olwyr, a gweithio i wella dyfnder ac ansawdd y chwaraewyr sy'n rhan o lwybr y Gweilch.” 

Mae gan glwb rygbi'r Brifysgol bum tîm dynion a dau dîm menywod sy'n cystadlu yng nghystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Mae tîm cyntaf y menywod yn cystadlu yn Uwch-gynghrair Ddeheuol BUCS (y brif gynghrair) ac mae'r dynion yn cystadlu yn Uwch-gynghrair Rygbi BUCS (y brif gynghrair). Mae'r clwb yn croesawu unrhyw ddarpar chwaraewyr, ni waeth beth fo eu cefndir chwaraeon, lefel eu sgiliau neu eu profiad.

Mae'r Brifysgol yn falch o'r llu o arwyr chwaraeon sydd ymhlith ei chyn-fyfyrwyr, gan gynnwys Alun Wyn Jones a Siwan Lillicrap, sydd hefyd yn Bennaeth Rygbi yn y Brifysgol.

Gan drafod ychwanegiad Hook at y garfan, meddai Siwan:

“Mae'n gyffrous iawn bod rhywun o brofiad ac arbenigedd James yn ymuno â ni fel hyfforddwr ymosodol eleni. Mae ef wedi chwarae ar y lefel uchaf yn ystod ei yrfa a bydd yn fentor gwych i'n myfyrwyr i gyd.

“Bydd yn mynd â ni gam ymhellach, gan ddangos llwyddiant ein partneriaeth â'r Gweilch.

“Yn ystod yr wythnosau cyntaf, byddwn yn dilyn protocolau cymunedol Undeb Rygbi Cymru ac rydym yn bwriadu ailddechrau yn wythnos gyntaf mis Medi. Byddwn yn treulio wythnos neu ddwy cyn y tymor yn rhoi'r holl ganllawiau ar waith. Bydd yn ymwneud â llawer o waith sgiliau a ffitrwydd a bydd yn amser gwych i James gymryd rhan yn gynnar a gweld sgiliau'r bechgyn y gall ef fynd ati i'w datblygu a'u gwella.”