Jac

Four Ospreys named in Wales squad to face South Africa

Four Head Ospreys have been named in Wales’ senior men’s squad to play South Africa.

Alex Cuthbert represents the backs for the Ospreys with Nicky Smith, Sam Parry and Jac Morgan representing the forwards.

Alex Cuthbert, selected on the wing, and Johnny Williams, named at centre, make their first appearances this summer, as does Kieran Hardy who starts at scrum-half.

Teddy Williams and Cai Evans, named among the replacements for this fixture, are 
in line to win their first senior Wales caps on the weekend.

Jac Morgan, who starts at openside flanker, will captain the side for the second time.

Dan Lydiate (blindside flanker) and Aaron Wainwright (No. 8) join Morgan in the Wales back row.

Elliot Dee (hooker) starts his first match this August, with Corey Domachowski (loosehead prop) and Keiron Assiratti (tighthead prop) winning their second caps and completing the Wales front row.

Ben Carter and Will Rowlands pair up in the second row.

Dan Biggar (fly-half) is named in the starting XV after two appearances off the bench against England.

Mason Grady makes his first start this August, partnering Johnny Williams in the Wales midfield.

Liam Williams is named at full-back for the second consecutive match. Rio Dyer completes the Wales starting line-up.

Among the replacements Tomos Williams and Max Llewellyn are alongside Evans as the back line cover.

Sam Parry, Nicky Smith and Henry Thomas are the Wales front row cover and Taine Basham, who was not a confirmed concussion following completion of all three stages of the head injury assessment (HIA) protocol*, provides the back row cover. 

Gatland said: “Preparations have gone well. We’re really pleased with the whole squad. We’re trying to build some depth within the team and there’s been a great atmosphere.

“In the first couple of games what was really pleasing for me was the physicality we brought and the way we defended. There are still things for us to work on in terms of being much more accurate. There’s been a lot of learning from that second England game and hopefully we put that into practice against South Africa. There’s another opportunity for this group of 23 players to put their hand up before we select the world cup squad.

“We’re expecting confidence and physicality from South Africa. They don’t make a lot of mistakes. It’s a very experienced team for them. But we’ve got a great chance to go out there in front of a home crowd and produce some of the good things that we did in both the games against England. We just need to make sure we play for 80 minutes and are accurate for 80 minutes.”

-----------------------------------------------------------------------------------------------

Mae'r Prif Hyfforddwr Warren Gatland wedi enwi ei dîm i chwarae De Affrica yng ngêm olaf Cyfres Haf Vodafone 2023 ddydd Sadwrn yma (19 Awst, CG 3.15pm BST yn fyw ar Prime Video yn Saesneg a Chymraeg).

Bydd Alex Cuthbert, (asgellwr), a Johnny Williams, (canolwr) yn gwneud eu hymddangosiadau cyntaf yr haf hwn, fel y bydd Kieran Hardy - sy'n dechrau yn safle’r mewnwr.

Mae Teddy Williams a Cai Evans, wedi eu henwi ymhlith yr eilyddion ar gyfer y gêm hon, ac felly y mae’n bosib y byddant yn ennill eu capiau cyntaf dros Gymru y penwythnos hwn.

Jac Morgan fydd yn gwisgo’r crys rhif 7 unwaith eto – ac ef fydd y capten hefyd – a hynny am yr eildro’n ei yrfa.

Dan Lydiate (blaenasgellwr) ac Aaron Wainwright (wythwr) fydd yn ymuno â Morgan yn rheng ôl Cymru.

Mae Elliot Dee (bachwr) yn dechrau ei gêm gyntaf ers mis Awst eleni, gyda Corey Domachowski (prop pen rhydd) a Keiron Assiratti (prop pen tynn) yn ennill eu hail gapiau yn y rheng flaen.

Ben Carter a Will Rowlands yw’r ddau ail reng.

Bydd Dan Biggar yn dechrau fel maswr am y tro cyntaf yr haf hwn ar ôl dau ymddangosiad oddi ar y fainc yn erbyn Lloegr yn ystod y pythefnos diwethaf.

Mae Mason Grady a Johnny Williams wedi eu dewis fel cyfuniad yng nghanol cae yn erbyn Pencampwyr y Byd.

Liam Williams fydd yn gefnwr unwaith eto gyda Rio Dyer yn cwblhau llinell ôl Cymru. 

Mae Tomos Williams a Max Llewellyn wedi eu henwi ymhlith yr eilyddion ar gyfer yr olwyr ynghŷd â Cai Evans.

Sam Parry, Nicky Smith a Henry Thomas yw eilyddion rheng flaen Cymru. Gan na chadarnhawyd i Taine Basham ddioddef cyfergyd y Sadwrn diwethaf – a gan iddo gwblhau pob un o’r tri cham o’r protocol Asesiad Anafiadau Pen (HIA)* - mae ar gael i gynnig opsiynau y rheng ôl – pe bydd angen. 

Dywedodd Warren Gatland: "Mae'r paratoadau wedi mynd yn dda. Ry’n ni’n hapus iawn gyda'r garfan gyfan. Ry’n ni’n ceisio adeiladu rhywfaint o ddyfnder o fewn y tîm ac mae’r awyrgylch wedi bod yn wych yn ystod ein hamser gyda’n gilydd.

"Yn y ddwy gêm gyntaf – fe brofon ni ein bod yn gallu bod yn hynod gorfforol ac yn gallu amddiffyn yn dda hefyd. Fe gefais fy mhlesio’n fawr gan hynny.

“Mae yna bethau penodol y mae’n rhaid i ni eu gwella – gan gynnwys bod yn fwy cywir a chlinigol. Ry’n ni wedi dysgu cryn dipyn o'r ail gêm honno yn erbyn Lloegr a gobeithio y byddwn yn rhoi hynny ar waith yn erbyn De Affrica. Mae hwn yn gyfle arall i'r grŵp yma o 23 o chwaraewr i geisio hawlio’u lle yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd.

"Ry’n ni’n gwybod y bydd De Affrica’n hyderus a chorfforol. Dydyn nhw ddim yn gwneud llawer o gamgymeriadau. Maen nhw’n dîm profiadol iawn - ond mae gennym gyfle gwych i ddangos ein doniau o flaen ein torf ein hunain ac adeiladu ar nifer o’r agweddau da o’n chwarae yn y ddwy gêm yn erbyn Lloegr. Mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n chwarae am 80 munud ac yn gywir am 80 munud."


Wales senior men’s XV to play South Africa at Principality Stadium in the 2023 Vodafone Summer Series. Saturday 19 August, KO 3.15pm BST. Live on Prime Video in English and Cymraeg

Tîm Cymru i chwarae De Affrica yn Stadiwm Principality yng Nghyfres Haf Vodafone 2023. Dydd Sadwrn 19 Awst, CG 3.15pm BST. Yn fyw ar Prime Video yn Saesneg a Chymraeg


15. Liam Williams (Kubota Spears – 85 caps)
14. Alex Cuthbert (Ospreys / Gweilch – 57 caps)
13. Mason Grady (Cardiff Rugby / Caerdydd – 3 caps)
12. Johnny Williams (Scarlets – 5 caps)
11. Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 8 caps)
10. Dan Biggar (Toulon – 109 caps)
9. Kieran Hardy (Scarlets – 17 caps)
1. Corey Domachowski ( Cardiff Rugby / Caerdydd – 1 cap)
2. Elliot Dee (Dragons / Dreigiau – 42 caps
3. Keiron Assiratti (Cardiff Rugby / Caerdydd – 1 cap)
4. Ben Carter (Dragons / Dreigiau – 10 caps)
5. Will Rowlands (Dragons / Dreigiau – 24 caps)
6. Dan Lydiate (Dragons / Dreigiau – 70 caps)
7. Jac Morgan (Ospreys / Gweilch – 10 caps) captain / capten
8. Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 38 caps)

Replacements / Eilyddion
16. Sam Parry (Ospreys / Gweilch – 6 caps)
17. Nicky Smith (Ospreys / Gweilch – 43 caps)
18. Henry Thomas (Montpellier – 1 cap)
19. Teddy Williams (Cardiff Rugby/ Caerdydd – uncapped / heb gap)
20. Taine Basham (Dragons / Dreigiau – 12 caps)
21. Tomos Williams (Cardiff Rugby/ Caerdydd – 47 caps)
22. Max Llewellyn (Gloucester Rugby / Caerloyw – 1 cap)
23. Cai Evans (Dragons / Dreigiau – uncapped / heb gap)


ENDS / DIWEDD