Beard

Five Ospreys were named in Wales' RWC squad to face Argentina

Five Ospreys were named in Warren Gatland's Wales squad to face Argentina in the RWC Quarter-final.

Following the 43-19 win against Georgia last weekend to make it four from four in pool C, Wales have been preparing for the quarter-final from their new team base in Toulon.

Jac Morgan makes his fourth start of the tournament and captains the side at blindside flanker, he is joined in the Wales back row by Tommy Reffell (openside flanker) and Aaron Wainwright (No. 8). 

Ryan Elias is named at hooker. Elias features alongside props Gareth Thomas (loose-head) and Tomas Francis (tight-head), who is making his 15th overall RWC appearance.

Adam Beard partners Will Rowlands in the second row for the third time this tournament with both players making their fourth appearance at RWC23.

Dan Biggar returns at fly-half and Gareth Davies is at scrum-half. 

Nick Tompkins and George North continue their centre partnership for the fourth time this competition. North is making his 20th RWC appearance in his fourth tournament.

Liam Williams is named at full-back with Josh Adams and Louis Rees-Zammit on the wings.

Among Wales’ replacements Dewi Lake, Corey Domachowski and Dillon Lewis are the front row cover. Exeter Chiefs duo Dafydd Jenkins and Christ Tshiunza cover the second and back rows respectively, with Jenkins in line to make his fifth RWC23 appearance and Tshiunza his third.

The back line cover is provided by Tomos Williams, Sam Costelow and Rio Dyer.

Gatland said: “We had a goal of making the quarter-finals which we have achieved. Now it’s about building on that momentum. 

“It’s exciting to enter into the knock-out stages of the tournament and we are ready for the challenge of a quarter-final. All our preparation has been geared to getting to this spot and we’re very much relishing the opportunity.

“We’re expecting another tough encounter this weekend against a physical Argentina side. We haven’t had the perfect performance yet, but we have shown that we are a hard team to beat. 

“There is a lot more growth in this squad – collectively and individually – and we can’t wait to get out there in Marseille on Saturday.”
 

Want to be the first to hear our news? Sign up to our newsletter

SIGN UP

-------------------------------------------------------------------------------------------- 

 

 

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi enwi ei dîm i herio Ariannin yn y Stade de Marseille yn Rownd yr Wyth Olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2023 (Dydd Sadwrn 14 Hydref 4pm BST / 5pm amser lleol yn fyw ar S4C ac ITV).

Yn dilyn y fuddugoliaeth o 43-19 yn erbyn Georgia y penwythnos diwethaf â sicrhaodd bedair buddugoliaeth mewn pedair gêm yng Ngrŵp C, mae Cymru wedi bod yn paratoi ar gyfer herio’r Archentwyr yn eu canolfan ymarfer newydd yn Toulon.

Bydd Jac Morgan yn gwneud ei bedwerydd ymddangosiad yn ystod cystadleuaeth eleni – ac yn arwain y tîm unwaith eto. Tommy Reffell (blaenasgellwr agored) ac Aaron Wainwright (Wythwr) fydd yn ymuno ag ef yn rheng ôl Cymru.

Ryan Elias sydd wedi cael ei enwi yn safle’r bachwr gyda’r propiau Gareth Thomas (pen rhydd) a Tomas Francis (pen tynn) yn cwblhau’r rheng flaen. Dyma fydd 15ed ymddangosiad Francis yng Nghwpan y Byd. 

Adam Beard a Will Rowlands sydd wedi eu dewis yn bartneriaid yn yr ail reng am y trydydd tro yn ystod Cwpan y Byd 2023 – gyda’r ddau chwaraewr yn gwneud eu pedwerydd ymddangosiad yn ystod cystadleuaeth eleni.

Bydd Dan Biggar yn dychwelyd fel maswr ac mae Gareth Davies wedi ei ddewis fel mewnwr.

Bydd Nick Tompkins a George North yn parhau â'u partneriaeth yng nghanol y cae – a hynny am y pedwerydd tro yn ystod y gystadleuaeth yn Ffrainc. Hwn fydd 20fed ymddangosiad North yn yng Nghwpan y Byd – a hynny yn ei bedwaredd pencampwriaeth. 

 

Mae Liam Williams wedi'i enwi’n gefnwr gyda Josh Adams a Louis Rees-Zammit yn cwblhau’r tri ôl.

 

Ymysg eilyddion Cymru bydd Dewi Lake, Corey Domachowski a Dillon Lewis yn cynnig opsiynau rheng flaen o’r fainc. Deuawd Caerwysg, Dafydd Jenkins a Christ Tshiunza fydd ar gael i gamu o’r fainc am unrhyw newidiadau yn yr ail reng neu’r rheng ôl. Os y cawn nhw eu galw i’r maes – bydd aelod ieuengaf y garfan, Jenkins yn gwneud ei 5ed ymddangosiad o’r gystadleuaeth a Tshiunza ei 3ydd.

Tomos Williams, Sam Costelow a Rio Dyer yw’r eilyddion ar gyfer yr olwyr.

Dywedodd Warren Gatland: "Roedd gennym nod o gyrraedd Rownd yr Wyth Olaf – ac ry’n ni wedi cyflawni hynny. Nawr mae'n rhaid i ni adeiladu ar y momentwn sydd eisoes wedi ei greu.

"Mae'n gyffrous parhau â’n siwrnai wedi’r gemau grŵp ac ry’n ni’n barod ar gyfer her Rownd yr Wyth Olaf. Mae ein holl waith paratoi wedi talu ar ei ganfed hyd yma ac ry’n ni’n falch iawn o gael y cyfle o gael cystadlu yn y chwarteri.

"Ry’n ni'n disgwyl her anodd a chaled arall y penwythnos hwn yn erbyn tîm corfforol  Ariannin. Nid ydym wedi perfformio’n berffaith eto, ond ry’n ni wedi dangos ein bod yn dîm caled i'n curo.

"Mae llawer mwy i ddod gan y garfan hon – fel unigolion ac fel uned - ac ni allwn aros i ddangos hynny ym Marseille ddydd Sadwrn."

Wales senior men’s XV for the Rugby World Cup 2023 quarter-final against Argentina at Stade de Marseille. Saturday 14 October, KO 4pm BST / 5pm CET. Live on ITV and S4C.
 

Tîm Cymru ar gyfer Rownd Wyth Olaf Cwpan Rygbi'r Byd 2023 yn erbyn Ariannin yn y Stade de Marseille. Dydd Sadwrn 14 Hydref, 4pm Amser Cymru / 5pm Amser Ffrainc. Yn fyw ar S4C ac ITV.



15. Liam Williams (Kubota Spears – 88 caps)
14. Louis Rees Zammit (Gloucester Rugby / Caerloyw – 31 caps)
13. George North (Ospreys / Gweilch – 117 caps)
12. Nick Tompkins (Saracens / Saraseniaid – 31 caps)
11. Josh Adams (Cardiff Rugby  / Caerdydd – 53 caps)
10. Dan Biggar (Toulon – 111 caps)
9. Gareth Davies (Scarlets – 73 caps)
1. Gareth Thomas (Ospreys / Gweilch – 25 caps)
2. Ryan Elias (Scarlets – 37 caps)
3. Tomas Francis (Provence Rugby – 76 caps)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 28 caps)
5. Adam Beard (Ospreys / Gweilch – 50 caps)
6. Jac Morgan (Ospreys / Gweilch – 14 caps) captain / capten*
7. Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr – 12 caps) 
8. Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 42 caps)

Replacements / Eilyddion
16. Dewi Lake (Ospreys / Gweilch – 11 caps) 
17. Corey Domachowski (Cardiff Rugby/ Caerdydd – 5 caps)
18. Dillon Lewis (Harlequins – 53 caps) 
19. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 11 caps)
20. Christ Tshiunza (Exeter Chiefs / Caerwysg – 9 caps)
21. Tomos Williams (Cardiff Rugby/ Caerdydd – 52 caps)
22. Sam Costelow (Scarlets – 7 caps)
23. Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 13 caps) 

ENDS / DIWEDD