Owen Watkin v Northampton

Dechreuad newydd

Mae 585 o ddyddiau wedi pasio ers y tro ddiwethaf i ni groesawu torf i’r stadiwm.

Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i’r chwaraewyr, staff, a chefnogwyr y gêm; ond bydd llawer wedi newid pan ddaw’r dorf yn ôl i’r eisteddle. Yn bennaf, mae ‘na gystadleuaeth newydd sbon danlli i’ch diddanu. Y Pencampwriaeth Rygbi Unedig; mae gwedd newydd ar y gynghrair, gyda ffrwydriad o liw ac arddull chwaraeus fodern i’w weld ar ledled y gystadleuaeth. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn croesawu pedwar tîm newydd o Dde Affrica: y Cell C Sharks, Vodacom Bulls, Emirates Lions, a DHL Stormers.

Video file

 

Mae gan y Gweilch gytundeb cit newydd hefyd, gan symud o Canterbury i Umbro a datgelu crysau du a gwyn newydd sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ymysg y cefnogwyr. Mae newid cynnil wedi bod yn noddwyr y crys, gan arddangos pum noddwr ar y cit, gan gynnwys cwmni Gymreig Philtronics ar flaen y crys.

Newid mawr arall, wrth gwrs, yw enw’r stadiwm. Mae’r Liberty wedi ei draddodi i hanes ac enw newydd y stadiwm yw Stadiwm Swansea.com.

 

 

Yn ysgogi fwy o gyffro fodd bynnag, yw’r chwaraewyr newydd sydd wedi ymuno â’r garfan. Daw’r prop rhyngwladol Tomas Francis o Gaerwysg i ymuno â’r rheng flaen rymus, ac hefyd yn dod o’r clwb yn Lloegr yw’r bachwr Elvis Taione a’r asgellwr enwog Gymraeg, Alex Cuthbert.

Yn y rheng ôl, rydym yn croesawu Jac Morgan yn ôl ar draws pont Llwchwr, tra bod Ethan Roots wedi arwyddo cytundeb i aros gyda’r Gweilch, a’r Gwyddel addawol Will Hickey hefyd yn cyffroi’r cefnogwyr. O’r Highlanders yn Seland Newydd, mae Michael Collins yn barod wedi creu argraff, gan sgorio dwy gais yn ei gêm gynaf dros y Gweilch, a mae’r clo Jack Regan, yn wreiddiol o Iwerddon, hefyd wedi teithio o’r Highlanders i gryfhau’r opsiynau yn y pac. Mae symud wedi bod rhwng y clybiau Cymraeg hefyd, gyda’r prop Ben Warren yn ymuno o Rygbi Caerdydd, a’r canolwr Osian Knott yn ymuno o’r Sgarlets.  

A dyw’r cyffro heb leihau ar ôl terfyn rownd agoriadol y PRU, wrth i’r Gweilch guro’r Dreigiau yng Nghasnewydd gyda perfformiadau gwych gan y chwaraewyr newydd. A heno, bydd cyfle arall i ennill hawliau frolio wrth i Rygbi Gaerdydd herio’r Gweilch yn Abertawe.

Mwynhewch y gêm!

 

Yn ôl i’r rhaglen