Eleni, byddwn ni’n cyhoeddi cyfres fer o broffiliau dyfarnwyr ifanc o ledled y rhanbarth a’u cyflwyno i chi fesul un. I gychwyn y gyfres byddwn ni’n siarad gyda dyfarnwr o’r enw Elfyn Morris-Roberts, sy’n byw yng Nghwm Twrch gyda Beca ei wraig, ei fab Rhun, a’i gi, Eira.
Bu Elfyn yn rheng ôl rhagorol, yn chwarae dros glwb rygbi’r Bala a Rygbi Gogledd Cymru cyn i’w yrfa ddod i ben yn dilyn anaf cas i’w ysgwydd. Fodd bynnag, chwe mis yn ddiweddarach, llwyddodd Merfyn Picton, rheolwr dyfarnwyr yn y gogledd, i’w berswadio i fentro dyfarnu yn lle hynny.
Dechreuodd ei daith yn Adran 3 y Gogledd, ond yn fuan symudodd ef â’i wraig i Ystradgynlais i ddechrau swydd fel athro addysg gorfforol. Yn fuan, cafodd Elfyn enw da fel dyfarnwr deallus ac empathetig. Yn fuan, cafodd ddyrchafiad i lefel tri yn dilyn cyfnod hyfforddi gyda’r Gweilch, lle cafodd ryddid i reoli gemau mwy.
Dyfarnodd Elfyn ei gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru o dan lifoleuadau St Helens: Abertawe v Bargoed.
“Nid fy atgof melysaf” meddai Elfyn wrth chwerthin, “Aeth hi ddim yn grêt, ond diolch byth daeth hi’n haws gydag amser a phrofiad. Ers hynny, ‘dw i wedi cael cyfle i ddyfarnu ledled Cymru yn yr uwchgynghrair a phencampwriaeth SWALEC, rheoli gemau ieuenctid rhanbarthol, rhedeg y lein ar gyfer gemau rhyngwladol o dan 20, menywod Cymru, a chefais gyfle i fod ar dîm hyfforddi gêm cwpan Heineken rhwng y Gweilch a Racing 92 tymor diwethaf.”
Wrth drafod yr iaith Gymraeg, datgelodd Elfyn ei fod wedi cael agoriad llygad o weld y nifer o Gymry Cymraeg sydd yng ngharfan dyfarnu Cymru.
“Baswn i’n dweud bod y mwyafrif o ddyfarnwyr URC yn siarad Cymraeg. Dwi wedi arfer trafod rygbi yn y Gymraeg yn y gogledd, ond mae yna lwyth o Gymraeg yma yn y de hefyd. Dwi’n cofio dyfarnu gêm rhwng Tregaron a Chaerfyrddin Athletig, a gallu dyfarnu’r gêm gyfan heb orfod newid i’r Saesneg. Mae’n anodd weithiau trafod rheolau’r gêm yn Gymraeg, gan fod yr eirfa i gyd yn Saesneg oherwydd eu bod nhw’n dod o World Rugby.
“Yn aml iawn bydd y tîm rheoli i gyd yn medru siarad Cymraeg a mae’n gysur cael gweithio yn dy iaith dy hun.”
Meddai Elfyn bod yna nifer fawr o Gymry talentog yn dod trwy rengoedd dyfarnu Undeb Rygbi Cymru, a bod y dyfodol yn ddisglair o’r safbwynt hynny. Wrth feddwl am y dyfodol, dywedodd Elfyn ei fod am ganolbwyntio ar barhau i ddyfarnu yn yr uwch gynghrair a chadw ei safon ei hun, gyda’r bwriad o gael cyfle i ddyfarnu yn y Guinness PRO14 a phencampwriaeth Ewrop.
“A phwy a ŵyr, efallai ga’i redeg y lein mewn gêm rhyngwladol yn y stadiwm genedlaethol rhyw ddydd!”