Cafodd Phillips lwybr anghonfensiynol i’r Gweilch, gan chwarae ei rygbi cynnar ar ochr arall pont Llwchwr.
“Roedd fy siwrne i i garfan y Gweilch bach yn wahanol i lot o’r fois sydd yma ar hyn o bryd. Chwaraeais i lot gyda Crymych, ac ar ôl gorffen gyda’r tîm ieuenctid, es i at Cwins Caerfyrddin a chwarae gyda nhw am flwyddyn. Wedyn ymlaen at Gastell Nedd a ches i gyfle gyda Cymru Dan 20, a dyna oedd y siwrne wedyn, i fynd mewn at garfan y Gweilch.
“Es i ddim drwy lwybr yr Academi, sydd yn wahanol i’r arfer, ond dwi’n falch iawn o sut ‘dw i wedi cyrraedd yma a ble ydw i nawr.”