“Dechreuais i chwarae gyda Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn pan oeddwn i’n with blwydd oed, a chwarae ‘na nes o ni’n chwech. Ges i un neu ddau gêm dros tîm ieuenctid Castell Newydd, wedyn es i i chwarae gyda Cwins Caerfyrddin. Bues i gyda nhw am sbel fach ond wedyn ges i’m mhigo lan gan y Gweilch adeg hyny, pan o ni tua 19 neu 20, a dwi wedi bod fan hyn ers hyny.
“Chwaraeais i dros Gymru D20 mas yn Ne Affrica, yna mas yn Ffrainc, a gyrhaeddon ni y rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd yn erbyn Lloegr. Roedd e’n dda cael y profiad ‘na gyda’r garfan Dan 20. Nes i ddysgu lot fel crwt ifanc, a mae’n helpu dod â ni lan i lefel proffesiynol.
“Does dim byd spesial dwi’n ei wneud cyn gêm, fi’n lico neud siwr bod fi ‘di paratoi drwy gydol yr wythnos, a bo fi’n gwybod yn iawn be’ fi’n wneud pan ma’n amser dod i’r gêm. Mae’n helpu bod y rheng flaen mor gystadleuol ar y funud; mae Duncan [Jones] wedi gwneud job da iawn gyda nig yd fel rheng flaen, a mae’r cystadleuaeth yn iach. Ni’n gwthio ein gilydd, yn enwedig i geisio cael y sgrym gorau yn y gystadleuaeth.
“Pan nad ‘dw i’n hyfforddi nac yn chwarae, dwi’n ymlacio drwy gerdded y ci a chwarae bach o PlayStation, mwynhau bach o Warzone. Mae’n gyfle i switcho bant yn llwyr ar ôl mynd adre. Sai’n meddwl bod lot o bobl yn sylweddoli faint o stress sy’n yna if od yn chwaraewr proffesiynol. Ma ‘na lot o bwysau arno chi, felly mae’n bwysig switch bant dwi’n credu.
“Fel mae’r gêm wedi datblygu, dwi’n meddwl bod eisiau’r rheng flaen, yn enwedig props, i chwarae fwy o rygbi a datblygu sgiliau a rhoi’r Gwaith amddiffynol i fewn. Mae ‘na lot fwy na just scrymyjio i wneud nawr.
“Mae’n fuddiol i mi ddefnyddio’r iaith Gymraeg yng ngharfan y Gweilch. Cymraeg yw fy iaith gyntaf i, ma’n nheulu i gyd yn siarad Cymraeg. Dysgu Saesneg wnes i pan symudes i i Lanelli pan o ni’n 17 neu 18, doeddwn i ddim yn gyfarwydd ‘da’r iaith. Dwi’n joio siarad Cymraeg yn yr amgylchedd hyn. Ma’ ‘na ddigon o Gymry Cymraeg yn y Gweilch, ma fi, Ifan [Phillips], Rhodri [Jones], Dan Evans, a llwyth rhagor, mae’n dd ai gael bois sy’n gyfforddus siarad Cymraeg ‘ma.
“Ond ma ‘na ddigon tu allan i’r Gweilch hefyd. Ffrind gorau fi yw Steff Hughes o’r Scarlets, o ni’n arfer byw ‘da fe. Ni’n cael hwyl tynnu coese’n gilydd, yn enwedig ar gemau ddarbi. Tro diwetha’ i mi chwarae yn ei erbyn oedd ar Boxing Day a cawsom ni bach o chat. Amser o ni’n byw ‘da Steff, dwi’n cofio chwarae dros Castell Nedd yn erbyn Llanelli ym Mharc y Scarlets. Roedden ni’n gyrru i’r gêm yn yr un car, a ni dal yn teithio i’r gemau gyda’n gilydd nawr. Dwi’n gweud wrtho fe, y peth cynta’ fi mynd i neud yw trio taclo fe, ac yn y gêm ‘na ar Boxing Day, nes i lwyddo’i ddal e yn y deg munud cyntaf a rhoi good tacl arno fe. Ni’n cael good laugh am y pet har ôl y gêm wedyn!”