Joe Hawkins

Cyfweliad gyda Joe Hawkins

Yn dilyn yr ornest rhwng Lloegr a Chymru D20 penwythnos diwethaf, dyma beth oedd gan canolwr ifanc y Gweilch a Chymru D20, Joe Hawkins, i'w ddweud:

"Llwyddon ni ddangos ein gallu yn yr 20 munud cyntaf, ble lwyddon ni gadw momentwm a chroesi’r llinell gais. Efallai y dylem ni wedi gwneud penderfyniadau gwahanol ar ôl ennill cic cosb a mynd am y pyst i gadw’r sgor-fwrdd i symud, ond roedden ni yn uchelgeisiol a fedrwch chi ddim ein beio ni am hynny.  

"Wnaeth y cerdyn coch ddim helpu, ond ambell dro dyna’r fath o bethau rydych chi angen ymdopi gyda mewn gêm o rygbi. Er hynny, mae’n anodd addasu unwaith rydych chi lawr i 14 dyn ond weithio’n ni’n galed i liniaru hynny. Ond yn yr 20 munud olaf roedd hi’n dechrau dangos yn ein lefelau egni a ffitrwydd.  

"Cytunom yn ystod hanner amser ein bod ni’n angen dod allan yn gryf a thaflu ergyd neu ddau yn gynnar; yn amlwg roedd Lloegr eisiau gwneud yr un peth ond gyda dyn yn ychwanegol.  

"Fydd hi’n braf defnyddio’r wythnos bant i ganolbwyntio ar hyfforddi’n galetach heb orfod poeni am wneud gormod o niwed i’r corff cyn gêm ar y penwythnos. Bydd rhaid i ni weithio ar ein gwendidau a cheisio cywiro camweddau’r ornest yn erbyn Lloegr. Ymlaen nawr i Fae Colwyn o flaen torf gartref a gobeithio rhoi dau berfformiad da ymlaen iddyn nhw. "

 

NÔL I'R RGAGLEN