Dewi Lake

Cyfweliad gyda Dewi Lake

Wrth wylio’r hanner cyntaf, roedd hi’n gêm wych. Ond yn yr ail hanner roedd yna gamgymeriadau, a phenderfyniadau yn mynd yn ein herbyn. Ac yn erbyn tim fel Racing 92, gyda’u chwaraewyr nhw ledled y cae, mae’n anodd dod yn ôl a mae’n nhw’n gallu creu rhywbeth o ddim.

Rydyn ni’n edrych yn ôl ar y gêmau i weld lle gallen ni wella, ond mae’n bwysig hefyd i nodi y pethau positif. Mae ein amddiffyn wedi gwella’n fawr iawn, yn enwedig yn yr hanner cyntaf. Roedden ni’n gorfforol iawn ac yn llwyddo stopio nhw yn eu traciau. Ond mae’n anodd parhau i fod mor egnïol a chorfforol am wythdeg munud llawn.

Mae’n hawdd edrych ar y gwrthwynebwyr cyn gêm a’u dadansoddi, beth sy’n anoddach a phwysicach yw adlewyrchu ar ein hunain, ac adnabod sut allwn ni wella a herio’r tîmau mawr fel Racing a Sale.

Dewi Lake
" Mae angen i ni newid agwedd pobl, a dangos iddyn nhw ein bod ni gallu cystadlu yn erbyn y goreuon."

Doedd hi ddim yn sioc i ni bod ar y blaen ar yr hanner, oherwydd rydym ni yn dîm da. Mae angen i ni newid agwedd pobl, a dangos iddyn nhw ein bod ni gallu cystadlu yn erbyn y goreuon. Roedd hi’n siomedig bod y gêm wedi gorffen fel y gwnaeth hi, yn enwedig o ystyried ein perfformiad yn yr hanner gyntaf. Ond mae angen cymryd y pethau da o’r gêm, a nid just canolbwyntio ar ein gwallau.

Mae ein sgrym ni yn gryf iawn, gyda llawer o glod i Duncan Jones a Toby Booth. Mae rheng flaen pwerus ‘da ni a rydym yn ymfalchio yn ein nerth yn y pac. Mae’n frwydr galed yn erbyn y timau mawr yma, ond rydym wedi dangos tro ar ôl tro ein bod ni byth am rhoi’r ffidil yn y to. I ddweud y gwir, roedden ni wedi dangos yn erbyn Racing ein bod ni’n gryfach yn y sgrym a wedi eu rhoi nhw o dan bwysau mawr.

Dewi Lake v Racing
Dewi Lake
"Mae’r Gweilch wedi fy natblygu a dwi’n gwerthfawrogi hyny ac yn mwynhau bob eiliad o chwarae yma."

Cefais cyfnod eithaf hir gydag anaf, yn gwylio o’r ochr, ond dwi yn ôl nawr ac yn mwynhau bod yn ôl. Baswn i ddim yma petawn ni ddim wedi cymryd y cyfleodd. Mae pawb yng Nghymru yn gwybod bod cystadleuaeth enfawr am safle yn y rheng ôl, ac mae fy nhaith i wedi mynd a fi i’r rheng flaen. Mae’r Gweilch wedi fy natblygu a dwi’n gwerthfawrogi hyny ac yn mwynhau bob eiliad o chwarae yma. Dwi wrth fy modd yn dysgu, a dwi’n dysgu yma bob dydd.

Dwi ddim yn poeni na ffantaseiddio am gael fy enwi yng ngharfan Cymru eleni, dwi’n canolbwyntio yn llwyr ar her Sale Sharks dros y penwythnos, ac ar ymarfer drwy’r wythnos i wella fy gêm. Os wyt ti’n dechrau cadw un llygad ar bethau fel yna, mae’n gallu cael effaith arnoch chi. Dwi just eisiau gwneud fy gorau oll dros y Gweilch.