Roedd e’n ganlyniad gwych yn erbyn y Sgarlets ar y penwythnos. Mae pawb yma yn edrych ymlaen at y gêm yn erbyn y Dreigiau ddydd Sul. Rydyn ni wedi paratoi’n dda a ffocws y Gweilch nawr yw ennill ein trydedd gêm ddarbi cyn gêm olaf y tymor yn erbyn y Vodacom Bulls.
Rydyn ni eisiau gorffen y tymor fel y rhanbarth orau yng Nghymru, ennill y Darian Gymreig, ac rydyn ni’n gwybod beth sydd angen ei wneud er mwyn gwneud hynny.
Yn bersonol dwi’n meddwl bod fy mherfformiadau yn iawn ar hyn o bryd. Roedd hi’n braf cael sgorio cais yn erbyn y Sgarlets ddydd Sadwrn diwethaf. Mae llawer o gystadleuaeth ymhlith y canolwyr yma ac mae’n cadw ni gyd ar flaenau’n traed ac i weithio’n galetach. Mae pawb eisiau hawlio man cychwyn yn y tîm dros y penwythnos a chynrychioli’r crys.
Mae gen i lwyth o gystadleuaeth ledled Cymru yn ogystal â’r Gweilch yn fy safle i. Mae Johnny Williams yn chwarae'n wych dros y Sgarlets ac mae llawer o brofiad gan Jonathan Davies yn y garfan hefyd. Hefyd, mae George North yn ôl dros y Gweilch nawr, felly mae rhaid i mi chwarae fy ngorau glas a gobeithio gwneud digon i gael fy nghynnwys a theithio gyda Chymru I Dde Affrica yn yr haf.