Jac

Jac Morgan named as captain for Wales's RWC Opener against Fiji 

Four Ospreys have been named in the team to face Fiji with Jac Morgan set to captain the side.

Head coach Warren Gatland has named his Wales senior men’s XV to play Fiji at Stade de Bordeaux in their opening pool C match of Rugby World Cup 2023 (Sunday 10 September 8pm BST / 9pm local time live on ITV and S4C).

Wales arrived in Bordeaux from their team base in Versailles this afternoon ahead of the weekend’s fixture.

The starting line-up includes five players making their Rugby World Cup debut. A further five players are in line to make their first world cup appearance from the bench.

Jac Morgan captains the side at openside flanker. He is joined in the back row by Aaron Wainwright at blindside flanker and Taulupe Faletau, who returns at No. 8 to win his 101st cap having last played in the Six Nations against tournament hosts France.

George North makes his 17th Rugby World Cup appearance in his fourth tournament. He partners Nick Tompkins in the Wales midfield.

Gareth Davies is selected at scrum-half and Dan Biggar at fly-half. Both are featuring in their third global tournament. Davies has played a part in each of Wales’ last 12 world cup games in the 2015 and 2019 competitions, with Biggar on the cusp of reaching 100 points scored at Rugby World Cups (currently 97 points).

In the Wales back three, Liam Williams starts at fullback, the eighth RWC match he will have featured in. Josh Adams, who was the leading try scorer in Japan 2019 with seven including a hat-trick against Fiji, and Louis Rees-Zammit are on the wings.

Gareth Thomas is named at loosehead prop. Ryan Elias, featuring in his second tournament, is selected at hooker. Tomas Francis, in his 11th world cup match, completes the front row. 

Will Rowlands and Adam Beard pair up in the second row. 

Among the replacements Tomos Williams, Sam Costelow and Rio Dyer provide the back line cover.

Elliot Dee, Corey Domachowski and Dillon Lewis are the Wales front row cover, Dafydd Jenkins, the youngest player in the Wales squad for the tournament, is the second row cover and Tommy Reffell is the final forward replacement.

Gatland said: "The squad has worked incredibly hard over the last few months and has been preparing well for Fiji in the last couple of weeks.

"Fiji are a good side with some great individual athletes and they play with a lot more structure now than maybe they have done traditionally.

“We’ve had some good clarity about what we want to achieve and the way we want to play on the weekend. It’s going to be an exciting contest on Sunday and one that we are relishing.
“The boys are looking sharp, there’s a great environment in this group - players working for each other, enjoying each other’s company. We're in a good place and can’t wait to get out there and get our Rugby World Cup 2023 campaign underway.”

On the absence of co-captain Dewi Lake from the match day-23 Gatland added: “The medical team has done a fantastic job getting Dewi back to full fitness. He’s not had as much training under his belt as the other hookers since he picked up that knock to his knee, so Ryan Elias and Elliot Dee are selected for us for this game.”



--------------------------------------------------------------------------------------------

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu Ffiji yn y Stade de Bordeaux yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd 2023.(Sul 10 Medi 8pm BST / 9pm amser Ffrainc – yn fyw ar S4C ac ITV).

Cyrhaeddod y garfan ddinas Bordeaux y prynhawn yma yn dilyn y daith o’u canolfan ymarfer yn Versailles ger Paris.

Mae’r pymtheg fydd yn dechrau’r ornest yn erbyn Ffiji yn cynnwys pum chwaraewr fydd yn ymddangos yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf. Mae’r un peth yn wir am bump o’r eilyddion hefyd. 

Jac Morgan fydd yn arwain y tîm yn safle’r blaenasgellwr agored a bydd Aaron Wainwright a Taulupe Faletau yn ymuno gyda’u capten yn y rheng ôl. Bydd yr wythwyr Faletau yn ennill cap rhif 101 ac yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf ers iddo wynebu Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd George North yn chwarae ei 17eg gêm yng Nghwpan y Byd ddydd Sul – a hynny yn ei bedwaredd Pencampwriaeth. Nick Tomkins fydd ei bartner yng nghanol cae.

Gareth Davies sydd wedi ei ddewis yn fewnwr gyda Dan Biggar yn safle’r maswr. Dyma fydd y drydedd gystadleuaeth ar gyfer Cwpan y Byd i’r ddau ohonynt gymryd rhan ynddi.

Mae Davies wedi chwarae rhan yn 12 gêm ddiwethaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn 2015 a 2019, tra bo Biggar o fewn triphwynt i gyrraedd 100 o bwyntiau yn y gystadleuaeth.

Ddydd Sul fydd wythfed gêm y cefnwr, Liam Williams yng Nghwpan y Byd a Louis Rees-Zammit a Josh Adams fydd yn cwblhau’r tri ôl. Adams oedd prif sgoriwr ceisiau Cwpan y Byd yn Japan yn 2019 ac fe hawliodd dri o’i saith cais yn y gystadleuaeth honno yn erbyn Ffiji.

Gareth Thomas sydd wedi ei ddewis yn brop pen tynn gyda’r bachwr Ryan Elias a Tomas Francis yn cwblhau’r rheng flaen. Yr ornest yn erbyn Ffiji fydd 11eg ymddangosiad Francis yng Nghwpan y Byd hyd yma.

Will Rowlands ac Adam Beard fydd y ddau glo.

Ymhlith yr eilyddion, Tomos Williams, Sam Costellow a Rio Dyer fydd yn cynnig yr opsiynau ar gyfer yr olwyr

Elliot Dee, Corey Domachowski a Dillon Lewis fydd eilyddion y rheng flaen a chwaraewr ieuengaf y garfan, Dafydd Jenkins a Tommy Reffell fydd yn cynnig yr opsiynau eraill ar gyfer y blaenwyr.

Dywedodd Gatland: "Mae’r garfan wedi gweithio’n hynod o galed dros y misoedd diwethaf wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth hon.

" Mae’r paratoadau penodol ar gyfer gêm Ffiji wedi bod yn arbennig yn ystod y pythefnos diwethaf. Maen nhw’n amlwg yn dîm da gydag athletwyr unigol gwych ac mae’n bwysig cydnabod bod llawer iawn mwy o strwythur i’w chwarae bellach.

“Ry’n ni’n gwybod yn iawn beth sydd angen i ni ei wneud a’r dull chwarae sydd angen i ni ei fabwysiadu ar gyfer gornest sy’n addo i fod yn gyffrous ddydd Sul. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at y gêm a’r achlysur.

“Mae’r bechgyn yn edrych yn dda ac yn barod ar gyfer yr her. Mae awyrgylch arbennig yn y garfan gyda’r chwaraewyr yn gweithio’n galed dros ei gilydd – ac yn mwynhau cwmni ei gilydd hefyd. Mae pawb yn ysu i ddechrau ein hymgyrch yng Nghwpan y Bydd 2023 ddydd Sul.”

Eglurodd Gatland hefyd pam nad yw’r cyd-gapten Dewi Lake wedi ei gynnwys yn y garfan ar gyfer yr ornest agoriadol: “Mae’r tîm meddygol wedi gwenud gwaith arbennig er mwyn cael Dewi’n ôl yn holliach – ond gan nad yw e wedi ymarfer gymaint â Ryan Elias ac Elliot Dee – ‘rwyf wedi penderfynu eu dewis nhw y tro hwn.”




Wales senior men’s XV to play Fiji at Stade de Bordeaux in their opening Pool C match of Rugby World Cup 2023. Sunday 10 September, KO 8pm BST. Live on ITV and S4C.

Tîm Cymru i wynebu Ffiji yn y Stade de Bordeaux yng Nghrŵp C o Gwpan Rygbi’r Byd 2023. Ddydd Sul 10 Medi 8pm BST. Yn fyw ar S4C ac ITV.


15. Liam Williams (Kubota Spears – 85 caps)
14. Louis Rees Zammit (Gloucester Rugby – 27 caps)*
13. George North (Ospreys / Gweilch – 114 caps)
12. Nick Tompkins (Saracens / Saraseniaid – 28 caps)*
11. Josh Adams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 50 caps)
10. Dan Biggar (RC Toulonnais – 109 caps)
9. Gareth Davies (Scarlets – 69 caps)
1. Gareth Thomas (Ospreys / Gweilch – 22 caps)*
2. Ryan Elias (Scarlets – 34 caps)
3. Tomas Francis (Provence Rugby – 72 caps)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 25 caps)*
5. Adam Beard (Ospreys / Gweilch – 47 caps)
6. Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 39 caps)
7. Jac Morgan (Ospreys / Gweilch – 11 caps) captain / capten*
8. Taulupe Faletau (Cardiff Rugby / Caerdydd – 100 caps)

Replacements / Eilyddion
16. Elliot Dee (Dragons / Dreigiau – 43 caps)
17. Corey Domachowski ( Cardiff Rugby / Caerdydd – 2 caps)*
18. Dillon Lewis (Harlequins – 51 caps) 
19. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 7 caps)*
20. Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr – 10 caps)*
21. Tomos Williams (Cardiff Rugby/ Caerdydd – 48 caps)
22. Sam Costelow (Scarlets – 4 caps)*
23. Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 9 caps)*

*player appearing in first Rugby World Cup

Want to be the first to hear our news? Sign up to our newsletter

SIGN UP