Follow the Ospreys in the EPCR Challenge Cup on S4C

Dilynwch ranbarthau Cymru yng Nghwpan Her Ewrop ar S4C

Gyda Gleision Caerdydd a’r Gweilch yn cystadlu yng Nghwpan Her Ewrop eleni, bydd modd dilyn y rhanbarthau gyda gemau byw ar S4C.

Gyda’r gystadleuaeth yn dilyn strwythur gwahanol eleni, fe fydd Gleision Caerdydd a’r Gweilch ymysg 14 clwb fydd yn cystadlu mewn un grŵp rhagbrofol.

Bydd S4C yn darlledu gemau’r ddau ranbarth yn fyw yn ystod pob wythnos o’r rowndiau rhagbrofol, gyda sylwebaeth Saesneg ar gael ar y gwasanaeth botwm coch.

Mae’r gystadleuaeth yn cychwyn ar nos Wener 11 Rhagfyr wrth i’r Gleision ymweld â Newcastle Falcons, cyn y gêm rhwng Gweilch a Castres yn y Stadiwm Liberty y diwrnod canlynol.

Mi fydd y ddau dîm yn anelu i orffen ymysg yr wyth tîm gorau o’r rowndiau rhagbrofol. Bydd yr wyth tîm yna yn ymuno gydag wyth tîm o Gwpan y Pencampwyr Heineken i gystadlu yn y rownd o 16, rownd yr wyth olaf, a’r rownd gyn-derfynol, cyn y rownd derfynol yn Marseille ar 21 Mai 2021.

Gemau Cwpan Her EPCR byw ar S4C

Rownd 1

Nos Wener 11 Rhagfyr  – Newcastle Falcons v Gleision Caerdydd - 8.00pm
Nos Sadwrn 12 Rhagfyr – Gweilch v Castres - 8.00pm

Rownd 2

Nos Sadwrn 19 Rhagfyr – Caerwrangon v Gweilch – 8.00pm
Nos Sul 20 Rhagfyr – Gleision Caerdydd v Stade Francais – 5.30pm

Rownd 3

Nos Wener 15 Ionawr – Gweilch v Caerwrangon – 8.00pm
Nos Sadwrn 16 Ionawr – Stade Francais v Gleision Caerdydd – 8.00pm

Rownd 4

I’w Gadarnhau

 

Follow Welsh regions in EPCR Challenge Cup on S4C

S4C will be following both Cardiff Blues and Ospreys with live coverage of the Welsh regions’ progress in the European Challenge Cup this season.

With a different structure to this year’s competition, Cardiff Blues and Ospreys are among 14 clubs in the preliminary stage.

S4C will show live coverage of both regions’ matches during the preliminary rounds in Welsh, with English commentary available on the red button.

The competition starts on Friday 11 December with the Blues trip to Newcastle Falcons and Ospreys v Castres the following day at the Liberty Stadium.

They will aim to be among the top eight teams from the preliminary rounds who will then proceed to the knockout stages, where they will be joined by eight teams from the Heineken Champions Cup.

Those 16 clubs will then compete in a round of 16, quarter-finals and semi-finals, before the final in Marseille on 21 May 2021.

Live EPCR Challenge Cup matches on S4C

Round 1

Friday 11 December  – Newcastle Falcons v Cardiff Blues - 8.00pm
Saturday 12 December – Ospreys v Castres - 8.00pm

Round 2

Saturday 19 December – Worcester Warriors v Ospreys – 8.00pm
Sunday 20 December – Cardiff Blues v Stade Francais – 5.30pm

Round 3

Friday 15 January – Ospreys v Worcester Warriors – 8.00pm
Saturday 16 January – Stade Francais v Cardiff Blues – 8.00pm

Round 4

TBC