Ospreys v Benetton St Helens TRY

Y Genhedlaeth Newydd

Fel arfer, rydym yn cael ein cyflwyno i ddawn ifanc Cymru ar ffurf un wyneb newydd ymhlith catrawd o enwau cyfarwydd. Ond oes yna rhyw dro mawr ar y gweill?

Yng ngharfan genedlaethol Cymru, mae newidiadau mawr wedi bod yn y tîm rheoli, ac mae nawr ymdeimlad bod oes newydd o rygbi ar wawrio, er gwell neu er gwaeth. Mae dyfodiad chwaraewyr megis Louis Rees-Zammit, Callum Sheedy, Ioan Lloyd, a Kieran Hardy, â’u cynnwys yng ngharfan yr Hydref gan Pivac yn arwyddocáol. Mae yna don o chwaraewyr ifanc yn camu i’r golwg nawr, ac mae llai a llai o rhesymau dros beidio â’u cynnwys mewn gemau yn sgil canlyniadau siomedig.

Gwelwn adlewyrchiad diddorol o hyn yn rhanbarthau Cymru, ac yn enwedig yma yn y Gweilch. Eleni yw tymor cyntaf prif hyfforddwr Toby Booth a’i dîm hyfforddi newydd, ac mae ef yn rhoi pwyslais clir ar ddatblygu chwaraewyr ifanc lleol, a’u rhoi ar y trywydd iawn i ddod yn sêr yn y dyfodol.

 

RHys DAvies v Scarlets

Mae yna sêr ifanc ymhlith y Gweilch yn barod, megis Adam Beard sy’n 24 oed ac Owen Watkin sy’n 23 oed. Ond mae enwau newydd a fydd yn llai cyfarwydd i rai, sydd wedi gwneud argraff ddiamheuol ar y garfan, yr hyfforddwyr, a chefnogwyr y Gweilch.

Dim ond 24 oed yw Mat Protheroe, sy’n wreiddiol o Abertawe, a gychwynodd ei yrfa gyda’r Gweilch â dwy gais yn erbyn Caeredin. Pwy helpodd Protheroe gan wneud y bylchiad tyngedfenol? Keiran Williams, sydd hefyd newydd droi’n 23 oed. Yng nghanol y cae gyda Williams wythnos diwethaf yn herio Munster oedd Tiaan Thomas-Wheeler, canolwr arall cyffrous sy’n 21 mlwydd oed eleni. Bu dau glo ifanc yn creu argraff wythnos diwethaf hefyd wrth i Rhys Davies, 21, a Will Griffiths, 21, ddal eu tir yn glodwiw iawn yn erbyn pac enfawr Munster yn Thomond Park.

Reuben v Glasgow

Sgoriodd Reuben Morgan-Williams gais unigol dros y rhanbarth yn erbyn Rhyfelwyr Glasgow, ac yntau ond yn 22 oed, tra bod Dewi Lake, 21, i’w weld yn hyrddio cyrff o’r neilltu ledled y cae. A ddylai neb anghofio cyfraniadau allweddol Morgan Morris, 22, o’r rheng ôl, a Cai Evans, 21, o safle’r cefnwr, a’r gwibiwr Keelan Giles, 22, llynedd chwaith.

Eleni, gwelsom Joe Hawkins yn gwneud ei ymddangosiad gyntaf dros y Gweilch yn 18 mlwydd oed, Josh Thomas yn cychwyn yn safle’r maswr yn 19 mlwydd oed, a Callum Carson yn dod i’r cae yn 21 oed.

Er bod dawn ifanc drwy’r garfan gyfan, mae yna ffynnon ddofn o wybodaeth i’w dynnu ohoni gan chwaraewyr megis Alun Wyn Jones, Justin Tipuric, Rhys Webb, George North, Scott Williams, a Dan Lydiate. Mae dyfodol disglair ar lwybr y Gweilch ifanc, ond pwyll biau hi am y tro wrth i’r hanfodion ac ethos newydd fwrw gwreiddiau yn y rhanbarth.